19/09/2016 - Cwestiynau ac Atebion Ysgrifenedig y Cynulliad

Cyhoeddwyd 13/09/2016   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 17/07/2017

​Cwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad a gyflwynwyd ar 12 Medi 2016 i'w hateb ar 19 Medi 2016

R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi'i gyflwyno yn Gymraeg.

(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)

Mae'n rhaid cyflwyno Cwestiynau Ysgrifenedig o leiaf bum diwrnod gwaith cyn y maent i gael eu hateb.  Yn ymarferol, bydd Gweinidogion yn ceisio ateb o fewn saith neu wyth diwrnod ond nid oes rheidrwydd arnynt i wneud hynny. Caiff yr atebion eu cyhoeddi yn yr iaith y maent yn cael eu darparu, gyda chyfieithiad i'r Saesneg o ymatebion a ddarperir yn Gymraeg.

Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg

Sian Gwenllian (Arfon): A wnaiff y Gweinidog gyhoeddi'r newid yng nghanran yr ymarferwyr addysg sy'n medru'r Gymraeg bob blwyddyn ers 2011? (WAQ70933)W

Derbyniwyd ateb ar 21 Medi 2016

Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes (Alun Davies): Ar hyn o bryd, cyhoeddir data ynghylch gallu athrawon ysgol i siarad Cymraeg yn flynyddol gan Gyngor y Gweithlu Addysg. Mae canran yr athrawon sy'n medru'r Gymraeg wedi cynyddu bob blwyddyn ers 2011.  33.3% yw canran yr athrawon cofrestredig sy'n medru'r Gymraeg yn 2016, o gymharu â 32.0% yn 2011.
 
Canran yr athrawon ysgol cofrestredig sy'n medru'r Gymraeg

20112012​2013​2014​2015​2016​
​32.0%32.3%​32.5%​32.9%​33.1%​33.3%​


Ffynhonnell: Crynodeb Blynyddol Cyngor y Gweithlu Addysg 2016

Dim ond athrawon ysgol a gynhwysir yn yr ystadegau uchod. Ar hyn o bryd nid oes data ar gael ar gyfer nifer yr ymarferwyr sy'n medru'r Gymraeg mewn sefydliadau addysg bellach ac uwch.

Mae rhagor o wybodaeth ynghylch athrawon a all addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg mewn ysgolion ar gael yma: http://www.ewc.wales/site/index.php/en/documents/research-and-statistics/annual-statistics-digest/84-ewc-annual-statistics-digest-2016

Mae data ym maes addysg uwch ar gael ynghylch staff a all addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae'r data diweddaraf ar gael drwy ddilyn y ddolen isod (caiff diweddariad ei gyhoeddi ar 29 Medi): http://gov.wales/docs/statistics/2015/150929-welsh-higher-education-institutions-2013-14-cy.pdf

 

Sian Gwenllian (Arfon): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y cynnydd a wnaed ar weithredu argymhelliad 6 adroddiad yr Athro Sioned Davies 'Uniaith i Bawb'? (WAQ70934)W

Derbyniwyd ateb ar 22 Medi 2016

Alun Davies: Roedd yr amserlen a nodwyd yn adroddiad yr Athro Davies yn ymwneud â gweithredu newidiadau i Gymraeg yn unig. Bellach rydym yn bwrw ymlaen â’r newidiadau sylfaenol hyn gan ddiwygio’r cwricwlwm cyfan a threfniadau asesu yng Nghymru. Mae’r cwricwlwm newydd yn cael ei ddylunio a’i ddatblygu mewn partneriaeth â’r Rhwydwaith o Ysgolion Arloesi, gwneuthurwyr polisi, ac arbenigwyr eraill yn y maes. Bydd y cwricwlwm newydd yn cynnwys chwe Maes Dysgu a Phrofiad, gan gynnwys maes dysgu Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu a fydd yn cynnwys y continwwm Cymraeg. Ni fydd Cymraeg Ail Iaith yn rhan o’n cwricwlwm newydd.
Fel y nodir yn Cwricwlwm i Gymru - cwricwlwm am oes, ein huchelgais o hyd yw sicrhau y bydd y cwricwlwm newydd ar gael i ysgolion o 2018 ymlaen, gyda phob ysgol yn ei ddefnyddio ar gyfer dysgu ac addysgu o 2021 ymlaen. Ar ôl ei gyflwyno, rhagwelwn y bydd angen amser ar lawer o ysgolion i baratoi ar gyfer rhoi’r cwricwlwm ar waith fel nad yw disgyblion yn cael eu rhoi dan anfantais gan y broses o newid cwricwlwm.

 

Sian Gwenllian (Arfon): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y cynnydd a wnaed ar weithredu argymhelliad 15 adroddiad yr Athro Sioned Davies 'Uniaith i Bawb'? (WAQ70935)W

Derbyniwyd ateb ar 22 Medi 2016

Alun Davies: Mae argymhelliad 15 yn Un Iaith i bawb yn awgrymu y dylai Llywodraeth Cymru ddatblygu canllawiau arfer gorau a nodi targedau ar gyfer cynyddu dysgu cyfrwng Cymraeg ar draws y cwricwlwm.

Rhwng 2012 a 2016, bu inni ariannu prosiect er mwyn i ddau glwstwr o ysgolion cynradd cyfrwng Saesneg gynyddu'r defnydd o'r Gymraeg ar draws y cwricwlwm yng Nghyfnod Allweddol 2. Cyhoeddwyd gwerthusiad o'r prosiect hwnnw'n ddiweddar:
http://gov.wales/docs/caecd/research/2016/160119-review-project-encourage-welsh-medium-teaching-in-english-medium-primary-schools-cy.pdf

Nawr, rydym yn gweithio i weld pa wersi sydd i'w dysgu o'r prosiect ac i'w casglu ynghyd. Byddwn yn rhannu'r arfer da sy'n deillio o'r prosiect hwn ar draws ysgolion mewn cydweithrediad â'r Consortia. Bydd canlyniadau'r prosiect hefyd yn sail i'n gwaith ar y cwricwlwm newydd.

 

Sian Gwenllian (Arfon): A wnaiff y Gweinidog gyhoeddi unrhyw dargedau a osodir gan Lywodraeth Cymru ers mis Medi 2013 i sicrhau mwy o ddysgu cyfrwng Cymraeg ar draws y cwricwlwm mewn ysgolion cyfrwng Saesneg? (WAQ70936)W

Derbyniwyd ateb ar 22 Medi 2016

Alun Davies: Nid yw Llywodraeth Cymru wedi gosod targedau ynghylch dysgu cyfrwng Cymraeg ar draws y cwricwlwm mewn ysgolion cyfrwng Saesneg.
Rhwng 2012 a 2016, bu inni ariannu prosiect er mwyn i ddau glwstwr o ysgolion cynradd cyfrwng Saesneg gynyddu’r defnydd o’r Gymraeg ar draws y cwricwlwm yng Nghyfnod Allweddol 2. Cyhoeddwyd gwerthusiad o’r prosiect hwnnw’n ddiweddar:
http://gov.wales/docs/caecd/research/2016/160119-review-project-encourage-welsh-medium-teaching-in-english-medium-primary-schools-cy.pdf

Nawr, rydym yn gweithio i weld pa wersi sydd i’w dysgu o’r prosiect ac i’w casglu ynghyd. Byddwn yn rhannu’r arfer da sy’n deillio o’r prosiect hwn ar draws ysgolion mewn cydweithrediad â’r Consortia.
Yn eu Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg ar gyfer 2017-20, rhaid i bob Awdurdod Lleol ledled Cymru nodi sut y byddant yn gwella’r ddarpariaeth Cymraeg Ail Iaith, a’r safonau. Hefyd, rhaid i Awdurdodau Lleol osod targedau ar gyfer gwneud gwelliannau ym mhob cyfnod allweddol.
Mae canllawiau a thempledi newydd wedi’u cyflwyno i Awdurdodau Lleol er mwyn iddynt ddatblygu eu cynlluniau ar gyfer 2017-20 i gryfhau a datblygu eu darpariaeth addysg Gymraeg. Bydd cynllunio ar gyfer Cymraeg Ail Iaith yn elfen allweddol o’r broses hon a bydd y gwaith hwnnw’n destun craffu a herio o ran gwella safonau ac argaeledd.

 

Sian Gwenllian (Arfon): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y camau gymerodd y Llywodraeth yn dilyn yr ymrwymiad ar waelod tudalen 3 o ymateb y Llywodraeth i adroddiad yr Athro Sioned Davies, 'Un Iaith i Bawb', ynghylch ystyriaeth bellach i newidiadau i'r cwricwlwm a'r angen am hyfforddiant, adnoddau ac arweiniad? (WAQ70937)W

Derbyniwyd ateb ar 22 Medi 2016

Alun Davies: Gwnaeth Weinidogion ddatganiad pellach ynghylch Cymraeg Ail Iaith ar 15 Hydref 2015. Yn y datganiad hwnnw, nodwyd safbwynt y Llywodraeth o ran adroddiad Un iaith i bawb a sut y bydd Cymraeg yn y cwricwlwm yn datblygu: 

http://gov.wales/about/cabinet/cabinetstatements/previous-administration/2015/welshsecondlang/?skip=1&lang=cy

Yn Cwricwlwm i Gymru – cwricwlwm am oes, nodwyd ein huchelgais y byddai'r cwricwlwm newydd ar gael o 2018 ymlaen, gyda phob ysgol yn ei ddefnyddio ar gyfer dysgu ac addysgu o 2021 ymlaen. Rydym yn ymwybodol y bydd angen amser ar ysgolion i baratoi ar gyfer rhoi'r cwricwlwm ar waith, fel nad yw disgyblion yn cael eu rhoi dan anfantais gan y broses newid. Rydym felly wedi cynnwys y cyfnod paratoi hwn yn ein cynlluniau.

Mae'r newidiadau hyn yn ddiwygiadau sylfaenol, sy'n effeithio ar y cwricwlwm cyfan. Caiff cryn dipyn o gymorth dysgu proffesiynol ei ddarparu i alluogi ymarferwyr i baratoi ar gyfer y cwricwlwm newydd a'i ddefnyddio'n llwyddiannus yn eu hysgolion neu leoliadau.

Ar hyn o bryd, mae Consortia Rhanbarthol yn gweithio ar lefel genedlaethol gyda'r Rhwydwaith Arloesi ac ysgolion partner i ddylunio a datblygu cynnig dysgu proffesiynol cenedlaethol. Bydd y cynnig hwnnw'n canolbwyntio ar ddysgu proffesiynol o safon uchel i sicrhau bod y cwricwlwm newydd yn llwyddiant.
 

Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant
  

Sian Gwenllian (Arfon): A yw'r ffordd ddaearyddol y mae Dechrau'n Deg yn cael ei ddosbarthu yn creu tensiynau ymhlith trigolion mewn ardaloedd cyfagos pan fo rhai yn gymwys i dderbyn y gwasanaeth ac eraill yn methu cael mynediad oherwydd eu bod yn byw ochr anghywir y ffin, er bod eu hanghenion yn debyg? (WAQ70938)W

Derbyniwyd ateb ar 22 Medi 2016

Carl Sargeant: Mae rhywfaint o hyblygrwydd yng nghanllawiau Llywodraeth Cymru i ystyried y math hon o sefyllfa. Gan ddefnyddio gwybodaeth am yr ardal leol a threfn gadarn o asesu blaenoriaethau, gall Awdurdodau Lleol sicrhau bod y gwasanaeth yn cael eu ddarparu i'r bobl sydd fwyaf ei angen.