Sut i fod yn Ddinesydd Brwd (CA2)

Cyhoeddwyd 25/01/2021   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 10/05/2024   |   Amser darllen munudau

Addas ar gyfer: Disgyblion Ysgol Gynradd (Blwyddyn 3 – 6)

Duration: sesiynau fel arfer yn 1 awr o hyd ond gall y swyddog yn eich ardal leol ddarparu ar gyfer sesiwn fyrrach neu hirach yn dibynnu ar eich anghenion.

Sesiwn ar gael ar-lein neu wyneb yn wyneb.

Lleoliad: Yn eich Ysgol - mae gennym swyddogion ar gael ym mhob ardal yng Nghymru. Pan fyddwch yn archebu, bydd eich swyddog agosaf yn cael y sesiwn ac yn ymweld â'ch ysgol

£ Am ddim

 

Gwybodaeth

Mae hwn yn gyfle gwych i ddysgu am y Senedd a Senedd Ieuenctid Cymru ac i drafod pwy sy'n gwneud penderfyniadau sy'n effeithio ar bob un ohonom sy'n byw yng Nghymru. Mae hwn hefyd yn gyfle i drafod pwysigrwydd rôl pobl ifanc, fel dinasyddion brwd, i fynd i'r afael â materion sy'n bwysig iddyn nhw.

Mae'r sesiwn yn cefnogi ymarferwyr mewn sawl un o'r chwe Maes Dysgu, yn enwedig y Dyniaethau ac Ieithoedd a Llythrennedd a Chyfathrebu. Mae'n berthnasol i themâu cynefin/ardal a Chymru yn ogystal â themâu sy'n ymwneud â phwerau'r Senedd e.e. yr amgylchedd neu fyw'n iach.

 

Archebu

Gallwch archebu eich sesiwn drwy ein ffurflen archebu. Gofynnwch am eich dyddiad dewisol a bydd ein tîm archebu mewn cysylltiad i gwblhau eich archeb.

 

Ffurflen archebu