Ymgynghoriad: Gwneud deddfau yng Nghymru yn fwy clir ac yn haws i'w deall

Cyhoeddwyd 06/12/2018   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 06/12/2018

Rydym yn gofyn i bobl am eu barn ynghylch Bil newydd â'r nod o wneud deddfau Cymru yn fwy hygyrch ac yn haws i'w deall.

Welsh-law 

Mae'r Bil Deddfwriaeth (Cymru) yn cael ei ystyried gan Bwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol y Cynulliad.

Os bydd yn cael ei basio, byddai'n rhaid i Lywodraeth Cymru nodi sut y bydd yn gwella hygyrchedd cyfreithiau Cymru, gan alluogi pobl i'w chael yn symlach i ddefnyddio'r gyfraith.

Mae Cymru'n rhannu ei llyfr statud â Lloegr, a gall hynny wneud deddfau'n anoddach i'w deall.

Daeth Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol y Pedwerydd Cynulliad i'r casgliad bod llyfr statud trefnus a hygyrch yn allweddol i reol y gyfraith.

Yn ôl Mick Antoniw AC, Cadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, "yn gyffredinol, mae pobl yn derbyn bod y llyfr statud yn gymhleth ac yn anhrefnus, a bod hyd yn oed y deddfwyr mwyaf profiadol yn ei chael yn anodd i ddehongli ystyr deddfau".

"Rydym yn bwriadu trafod y Bil Deddfwriaeth (Cymru) yn fanwl i weld a yw'n angenrheidiol; a fydd yn cyflawni'r hyn a fwriedir; ac a oes goblygiadau anfwriadol a allai godi o ganlyniad i'r Bil yn dod yn gyfraith.

"Byddem yn croesawu sylwadau a syniadau gan unrhyw un sydd â diddordeb yn y maes hwn i lywio ein canfyddiadau."

Dylai unrhyw un sy'n dymuno cyfrannu at yr ymchwiliad fynd i wefan y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol.

21 Ionawr 2019 yw'r dyddiad cau ar gyfer yr ymgynghoriad cyhoeddus.