Ymchwiliad STEM: Gwe-sgyrsiau gydag Aelodau'r Cynulliad

Cyhoeddwyd 04/04/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Ymchwiliad STEM: Gwe-sgyrsiau gydag Aelodau'r Cynulliad

4 Ebrill 2014

Rydym yn chwilio am fyfyrwyr a phrentisiaid i gymryd rhan mewn gwe-sgwrs gydag Aelodau’r Cynulliad ynglyn â Sgiliau Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg (STEM) yng Nghymru.

Rydym am glywed eich barn ynglyn ag a ydych yn credu bod digon yn cael ei wneud i annog pobl ifanc i ddilyn cyrsiau Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg. Hoffem hefyd glywed eich barn ynglyn ag a yw’r cyrsiau hyn yn galluogi pobl ifanc i ddatblygu’r sgiliau gofynnol ar gyfer gyrfa yn y meysydd hyn.  

Os oes gennych ddiddordeb mewn cymryd rhan, anfonwch neges yn mynegi eich diddordeb at celyn.cooper@cymru.gov.uk

Cofiwch gynnwys y manylion canlynol yn eich cyflwyniad:

  • Eich enw

  • Rhif ffôn cyswllt

  • Cyfeiriad e-bost

  • Manylion eich cwrs (yn cynnwys manylion ynglyn â ble’r ydych yn astudio, enw’r cwrs, eich blwyddyn astudio ac ati.)

  • Cod post eich cartref

  • Ychydig o fanylion ynglyn â pham yr hoffech gymryd rhan.

Cynhelir y we-sgwrs ar fore 30 Ebrill, a bydd yn cynnwys gwe-sgwrs brawf ragarweiniol. Cyhoeddir y manylion am hyn yn fuan.

Bydd y we-sgwrs hon yn rhan o Ymchwiliad y Pwyllgor Menter a Busnes i sgiliau STEM, a dyma’ch cyfle chi i ddweud eich dweud!

I gael rhagor o wybodaeth am yr ymchwiliad, cliciwch yma.