Y Pwyllgor Diwylliant i Graffu ar Bolisi Chwaraeon

Cyhoeddwyd 08/03/2006   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Y Pwyllgor Diwylliant i Graffu ar Bolisi Chwaraeon

8 Mawrth 2006

Yn ei gyfarfod nesaf ddydd Mercher 8 Mawrth yn Ystafell Bwyllgora 3 y Senedd, bydd y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chwaraeon yn craffu ar Bolisi Chwaraeon.

Bydd y Pwyllgor yn cael adroddiad gan y Gweinidog am bolisïau Llywodraeth Cynulliad Cymru ym maes chwaraeon. Yn ystod y cyfarfod, bydd y Pwyllgor hefyd yn adolygu Cyngor Celfyddydau Cymru, gan gynnwys y broses o ariannu'r celfyddydau yng Nghymru, ac yn adolygu Papurau Newydd Saesneg yng Nghymru. Cynhelir y cyfarfod am 9.00am yn Ystafell Bwyllgora 3, y Senedd, Bae Caerdydd. Manylion llawn ac agenda