Un o Bwyllgorau'r Cynulliad yn lansio ymchwiliad i 'gyffuriau penfeddwol cyfreithlon'

Cyhoeddwyd 03/07/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 30/07/2014

Mae Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol y Cynulliad Cenedlaethol yn cynnal ymchwiliad i sylweddau seicoweithredol newydd, a elwir hefyd yn 'gyffuriau penfeddwol cyfreithlon' (legal highs).

Mae'r Pwyllgor am wybod pa mor ymwybodol yw pobl o gyffuriau penfeddwol cyfreithlon a'r niwed posibl y gallant ei achosi. Bydd y Pwyllgor hefyd yn ystyried:

  • a allai newid y gyfraith yng Nghymru, neu ar lefel y DU, helpu i fynd i'r afael â chyffuriau penfeddwol cyfreithlon;

  • a oes gan wasanaethau lleol y capasiti i ymdrin â'r effaith pan fydd pobl yn defnyddio cyffuriau penfeddwol cyfreithlon;

  • beth y gellir ei ddysgu o'r dulliau gweithredu a ddefnyddiwyd gan lywodraethau eraill ledled y byd.

Cyhoeddir arolwg dienw ar-lein hefyd erbyn diwedd mis Gorffennaf, yn gofyn i bobl rannu eu profiadau o gyffuriau penfeddwol cyfreithlon, a'u barn amdanynt.

Bydd y Pwyllgor hefyd yn gofyn i Lywodraeth Cymru, yr Heddlu, gwasanaethau iechyd a sefydliadau perthnasol eraill beth sy'n cael ei wneud i addysgu a chynghori pobl am y risgiau sydd ynghlwm wrth gymryd y cyffuriau hyn.

Mae'r term 'cyffuriau penfeddwol cyfreithlon' yn gamarweiniol mewn ffordd, gan mai'r awgrym yw bod y sylweddau hyn yn ddiogel", meddai David Rees AC, Cadeirydd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol.

"Rydym am greu darlun cywir o ba mor eang yw'r defnydd o sylweddau seicoweithredol newydd yng Nghymru, a faint y mae pobl yn ei wybod am y niwed y gallant ei achosi.

"Er mwyn gwneud hynny, mae angen inni gael gwybod am brofiadau pobl gan gynnwys beth y maent yn ei wybod am gyffuriau penfeddwol cyfreithlon a ble y cawsant y wybodaeth honno.

"Nid dal pobl ar eu bai, na beirniadu eu penderfyniadau, yw'r nod. "Y nod yw sicrhau bod ganddynt yr addysg a'r cyngor angenrheidiol i wneud penderfyniadau deallus, a hynny gyda dealltwriaeth lwyr o'r risgiau posibl."

Dyddiad cau'r ymgynghoriad yw dydd Gwener, 26 Medi 2014, a bydd rhagor o wybodaeth am yr arolwg ar-lein ar gael drwy ffrwd Twitter y Pwyllgor, @IechydSenedd.

Gall pobl hefyd ymuno â'r sgwrs drwy ddefnyddio'r hashnod #CyffuriauPenfeddwolCyfreithlon, neu #LegalHighs.

Os yw'r defnydd o gyffuriau penfeddwol cyfreithlon wedi effeithio arnoch chi, neu rywun yr ydych yn ei adnabod, neu os hoffech ragor o wybodaeth amdanynt, gallwch gysylltu â Dan 24/7 am gyngor cyfrinachol.

Mae rhagor o wybodaeth am y defnydd o gyffuriau seicoweithredol newydd ("cyffuriau penfeddwol cyfreithlon") ar gael yma.