Un o bwyllgorau'r Cynulliad Cenedlaethol yn dechrau ymchwiliad i ordewdra mewn plant

Cyhoeddwyd 22/03/2013   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Un o bwyllgorau'r Cynulliad Cenedlaethol yn dechrau ymchwiliad i ordewdra mewn plant.

22 Mawrth 2013

Mae un o bwyllgorau Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn cynnal ymchwiliad i edrych ar y materion ynghylch gordewdra mewn plant yng Nghymru.

Bydd y Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc yn edrych ar ffactorau fel cefndir cymdeithasol a lleoliad daearyddol a'r effaith y gallen nhw eu cael ar gyfraddau gordewdra.

Bydd hefyd yn edrych ar effeithlonrwydd mentrau Llywodraeth Cymru yn y maes gan gynnwys rhaglenni fel Newid am Oes a MEND.

Yn arolwg iechyd 2011, nodwyd bod 35 y cant o blant rhwng 2 a 15 oed dros bwysau neu'n ordew a bod 19 y cant yn ordew.

Dywedodd Christine Chapman AC, Cadeirydd y Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc, “Mae gordewdra mewn plant yn broblem ddifrifol, ac os nad yw'n cael ei drin yn gynnar gall achosi cymhlethdodau i'r unigolyn pan fydd yn oedolyn”.

“Gall gynyddu'r risg o gael cyflyrau cronig fel Diabetes math 2, clefyd cardiofasgwlaidd a chanser.

“Bydd y Pwyllgor yn edrych ar y graddau y mae ffactorau fel lleoliad daearyddol a materion economaidd-gymdeithasol yn cyfrannu at ordewdra a pha mor effeithiol y mae Llywodraeth Cymru wrth fynd i'r afael â'r broblem.

“Mae sicrhau bod gan Gymru boblogaeth iach a chynhyrchiol yn flaenoriaeth i ni i gyd, ac rwy'n annog unrhyw un sydd â barn neu syniadau am y mater hwn i gyfrannu at ein hymchwiliad.”

Gall unrhyw un sy'n dymuno cyfrannu tystiolaeth i'r ymchwiliad i ordewdra mewn plant naill ai anfon e-bost at CYPCommittee@cymru.gov.uk, neu ysgrifennu at:

Clerc y Pwyllgor

Y Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc

Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Bae Caerdydd, CF99 1NA

Dylai unrhyw dystiolaeth gyrraedd erbyn dydd Gwener 3 Mai 2013. Mae'n bosibl na fydd modd ystyried unrhyw ymateb a ddaw i law ar ôl y dyddiad hwn.