Un o bwyllgorau’r Cynulliad Cenedlaethol yn cytuno ar egwyddorion cyffredinol Bil Safleoedd Rheoleiddiedig Cartrefi Symudol (Cymru)

Cyhoeddwyd 21/02/2013   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Un o bwyllgorau’r Cynulliad Cenedlaethol yn cytuno ar egwyddorion cyffredinol Bil Safleoedd Rheoleiddiedig Cartrefi Symudol (Cymru)

21 Chwefror 2013

Mae un o bwyllgorau Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi cefnogi egwyddorion cyffredinol Bil i foderneiddio’r fframwaith cyfreithiol ar gyfer rheoleiddio a rhedeg safleoedd cartrefi symudol yng Nghymru.

Yn ei adroddiad, a gyhoeddwyd heddiw, daeth y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol i’r casgliad bod angen i’r Bil Safleoedd Rheoleiddiedig Cartrefi Symudol (Cymru) ddiweddaru’r drefn bresennol o drwyddedu safleoedd cartrefi symudol. Dylai hefyd fynd i’r afael â’r materion y daethpwyd ar eu traws ar rai safleoedd cartrefi symudol yng Nghymru.

Roedd y Pwyllgor hefyd yn croesawu’r ffaith bod prawf "person addas a phriodol" i berchnogion a rheolwyr safleoedd wedi’i gynnwys yn y Bil.

Roedd y Pwyllgor o blaid dileu hawl perchnogion safleoedd i "roi feto ar" werthiant cartrefi symudol, ond gwnaeth argymhelliad y dylai’r Bil hefyd gynnwys diogelwch i brynwyr cartrefi symudol, perchnogion safleoedd a thrigolion eraill safleoedd.

Ond roedd y Pwyllgor hefyd yn pryderu ynghylch faint o is-ddeddfwriaeth fyddai’n ofynnol gan y Bil a gwnaeth argymhelliad bod mwy o fanylder yn cael ei gynnwys yn y Bil ei hun.

"Er bod rhai safleoedd cartrefi symudol, yn ddi-os, yn cael eu rhedeg a’u rheoli’n dda, a pherchnogion cartrefi symudol a pherchnogion safleoedd yn mwynhau perthynas waith dda, yn anffodus mae safleoedd hefyd lle mae trigolion yn dioddef aflonyddwch, bygythiadau a chamreolaeth ariannol, sy’n gwneud eu bywydau’n ddiflas," meddai Ann Jones, Cadeirydd y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol.

"Fel Pwyllgor rydym wedi cytuno bod angen deddfwriaeth i ddiweddaru’r drefn bresennol o drwyddedu, codi safonau ar safleoedd cartrefi symudol, a gwella ansawdd bywyd perchnogion cartrefi symudol.

"Hoffem, fodd bynnag, weld mwy o fanylder yn y Bil er mwyn osgoi’r angen am gymaint o is-ddeddfwriaeth. Credwn hefyd y gallai’r Bil, mewn rhai mannau, fynd ymhellach o ran diogelu hawliau trigolion cartrefi symudol a pherchnogion safleoedd."

Y Bil yw’r Bil cyntaf sy’n Fil Aelod, nad yw’n Fil gan y Llywodraeth, i ddod gerbron y Pedwerydd Cynulliad a chafodd ei gynnig gan Peter Black AC.

Bydd y Cynulliad yn trafod egwyddorion cyffredinol y Bil yn y Cyfarfod Llawn ar 6 Mawrth. Bydd Aelodau’r Cynulliad yn pleidleisio ynghylch a ddylai’r Bil fynd ymlaen i Gyfnod Dau o broses ddeddfu’r Cynulliad Cenedlaethol, pan fydd y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol yn ymchwilio i’r Bil ac unrhyw welliannau a gyflwynwyd gan Aelodau’r Cynulliad mewn mwy o fanylder.

Dylai aelodau o’r cyfryngau sydd am drefnu cyfweliad ag Ann Jones AC, Cadeirydd y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol, gysylltu â thîm Cyswllt â’r Cyfryngau Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar 029 2089 8215.

Linc i ragor o wybodaeth am y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol.

Linc i ragor o wybodaeth am y Bil Safleoedd Rheoleiddiedig Cartrefi Symudol (Cymru)

Linc i ragor o wybodaeth am broses ddeddfu y Cynulliad Cenedlaethol