Sut mae polisi ynni y Deyrnas Unedig yn effeithio ar Gymru? Pwyllgor yn lansio ymchwiliad

Cyhoeddwyd 02/08/2011   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

2 Awst 2011

Sut mae polisi ynni y Deyrnas Unedig yn effeithio ar Gymru? Pwyllgor yn lansio ymchwiliad

Mae un o bwyllgorau Cynulliad Cenedlaethol Cymru am glywed barn pobl ynghylch polisi a chynllunio ym maes ynni yng Nghymru fel rhan o ymchwiliad newydd.

Bydd y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd yn archwilio i sut mae polisi cynhyrchu ynni Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn effeithio ar gynlluniau Llywodraeth Cymru.

Bydd y Pwyllgor hefyd yn ystyried y goblygiadau i Gymru os bydd y cyfrifoldeb dros ganiatau cynlluniau isadeiledd mawr ar gyfer cynhyrchu ynni ar y tir ac ar y mor yn aros gyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig.

O dan y ddeddfwriaeth bresennol, mae penderfyniadau terfynol ynghylch cynlluniau a fydd yn cynhyrchu mwy na 50 megaWatt o bwer yn cael eu gwneud yn Llundain.

Mater arall i’w ystyried fydd effaith bosibl penderfyniadau ynghylch prosiectau isadeiledd mawr a datblygiadau cysylltiedig os nad ydynt yn cael eu gwneud yn unol a pholisi cynllunio Cymru.

Hoffai’r Pwyllgor hefyd glywed sut y gall ffurfiau newydd o gynhyrchu ynni yng Nghymru gyfrannu at gyrraedd targedau blynyddol Llywodraeth Cymru i leihau allyriadau nwyon ty gwydr.

Dywedodd yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas AC, Cadeirydd y Pwyllgor: “Mae gan Lywodraeth Cymru gynlluniau uchelgeisiol i ddatblygu ynni adnewyddadwy a charbon isel yng Nghymru, ond mae llawer o gyfrifoldeb am gynllunio a pholisi mewn perthynas ag ynni yn nwylo Llywodraeth y Deyrnas Unedig.

“Fel Pwyllgor, hoffem glywed am y potensial ar gyfer unrhyw wrthdaro rhwng y cyfundrefnau cynllunio a chaniatau yn y Deyrnas Unedig ac yng Nghymru.

“Rydym eisoes wedi gweld gwrthwynebiad a barnau yn cael eu mynegi am gynlluniau ar gyfer ffermydd gwynt a pheilonau trydan ar gyfer canolbarth Cymru, a bydd y Pwyllgor yn ystyried yr holl faterion hyn.

“Fodd bynnag, bydd yr ymchwiliad yn edrych ar bob agwedd ar bolisi a chynllunio mewn perthynas ag ynni, a byddem yn croesawu barnau a thystiolaeth gan unrhyw un sydd a diddordeb yn y maes hwn.”

Fel rhan o’i ymchwiliad, bydd y Pwyllgor yn ystyried dwy ddeiseb a anfonwyd ato gan y Pwyllgor Deisebau. Mae un ohonynt yn ymdrin a chludo tyrbinau gwynt yng nghanolbarth Cymru. Mae’r llall yn gwrthwynebu Nodyn Cyngor Technegol rhif 8, sy’n ymdrin a chynllunio ar gyfer ynni adnewyddadwy.

Gall unrhyw un sy’n dymuno cyflwyno tystiolaeth i’r Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd anfon e-bost at E&S.comm@cymru.gov.uk neu ysgrifennu at: Clerc y Pwyllgor, Y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Caerdydd, CF99 1NA.

Gellir gweld rhagor o wybodaeth am y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd, gan gynnwys ymchwiliadau cyfredol, yma.

Y ddwy ddeiseb a anfonwyd at y Pwyllgor yw:

P-03-273 Cludo tyrbinau gwynt yn y Canolbarth.

P-04-324 Dywedwch Na i TAN 8 – Mae ffermydd gwynt a llinellau pwer foltedd uchel yn difetha ein cymuned.