Pwyllgor y Cynulliad yn cyhoeddi adroddiad ar faterion sy’n effeithio ar weithwyr mudol yng Nghymru

Cyhoeddwyd 26/11/2008   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Pwyllgor y Cynulliad yn cyhoeddi adroddiad ar faterion sy’n effeithio ar weithwyr mudol yng Nghymru

Mae gweithwyr mudol yng Nghymru yn creu busnesau newydd ac yn llenwi’r bwlch yn y farchnad lafur ac nid ydynt yn fwy tebygol na dinasyddion eraill y DU o droseddu, ond mae nifer sylweddol o’r gweithlu gwerthfawr hwn yn cael eu camddefnyddio’n ddiegwyddor.

Dyma ddyfarniad ymchwiliad gan Bwyllgor Cyfle Cyfartal Cynulliad Cenedlaethol Cymru a lansiodd ei ganfyddiadau mewn adroddiad a gyhoeddwyd heddiw (dydd Mercher).

Mae ymchwiliad y Pwyllgor i ‘faterion sy’n effeithio ar weithwyr mudol yng Nghymru, eu teuluoedd a’r cymunedau y maent yn byw a gweithio ynddynt’ wedi cynnal chwe chyfarfod pwyllgor ffurfiol i gymryd tystiolaeth gan Lywodraeth Cynulliad Cymru, llywodraeth leol, undebau llafur, awdurdodau gorfodi’r gyfraith, cynrychiolwyr llysgenadaethau, grwpiau ffydd a sefydliadau gwirfoddol.  

Mae’r adroddiad yn canolbwyntio ar faterion sy’n effeithio ar weithwyr mudol yng Nghymru - gan alw am fwy o gyfleoedd i ddysgu Saesneg - ac ar faterion sy’n effeithio ar y cymunedau y mae gweithwyr mudol yn byw ac yn gweithio ynddynt - gan alw am gydgysylltu’r ffordd o gofnodi niferoedd y gweithwyr mudol mewn cymunedau er mwyn cynllunio gwasanaethau yn well.  

Wrth lansio’r adroddiad yn Adeilad y Lanfa ym Mae Caerdydd, dywedodd Ann Jones AC, Cadeirydd y pwyllgor:

“Wrth gynnal yr ymchwiliad, cefais fy nghalonogi gan y cymorth a roddir i weithwyr mudol i’w helpu i ddod yn rhan o’r gymuned a’r gweithle. Cefais fy siomi, fodd bynnag, o glywed bod y gweithlu gwerthfawr hwn yn cael ei gamddefnyddio, yn aml am nad yw pobl yn ymwybodol o’u hawliau a’u cyfrifoldebau. Mae rhwystrau ieithyddol yn dwysáu’r trafferthion.

“Gobeithio y caiff ein holl argymhellion, yn arbennig y rhai sy’n ymwneud â dysgu’r Saesneg, eu derbyn gan Lywodraeth Cynulliad Cymru, er mwyn helpu i oresgyn y rhwystrau hynny. Wrth ystyried materion ieithyddol ein hunain, rydym wedi cynhyrchu dogfen gryno o’r prif adroddiad, sydd ar gael mewn ieithoedd ar wahân i’r Gymraeg a’r Saesneg ar gais.

“Mae nifer y mythau sy’n cael eu hadrodd am weithwyr mudol ac sy’n annog gwahaniaethu ac aflonyddu, hefyd yn peri pryder i mi. Yn groes i’r newyddion ffyrnig bod ‘mwy o droseddau yn digwydd yn sgil mewnfudo’, awgryma’r dystiolaeth a gafwyd yn ystod yr ymchwiliad hwn nad yw gweithwyr mudol yn fwy tebygol na dinasyddion eraill y DU o fod yn droseddwyr nac yn ddioddefwyr. Cafodd y pwyllgor dystiolaeth a oedd yn amlinellu’r ffaith bod llawer o weithwyr mudol yn dueddol o dderbyn swyddi ar gyflogau isel neu waith sy’n galw am lai o sgiliau, lle mae diffyg gweithwyr, yn hytrach na ‘dwyn swyddi pobl eraill’.

“Barn yr aelodau yw bod gweithwyr mudol yng Nghymru yn creu busnesau newydd ac yn hybu’r economi. Mae mudo ac amrywiaeth wedi bod yn rhan o hanes Cymru ers amser maith a dylem ei ddathlu. Gall storïau cyfrifol ar y cyfryngau yn ymwneud â gweithwyr mudol chwarae rhan bwysig yn y gwaith o chwalu’r mythau a gaiff eu hadrodd am weithwyr mudol.

“Rydym wedi gwneud llawer o argymhellion i Lywodraeth Cynulliad Cymru a’r gobaith yw y bydd yr enghreifftiau o arfer da a restrwyd gennym yn sicrhau cyfle cyfartal i weithwyr mudol, eu teuluoedd, y sefydliadau a’r staff a ddaw i gysylltiad â hwy yn ogystal â’r bobl eraill yn y cymunedau y maent yn byw ac yn gweithio ynddynt.”

Gellir cael copi o’r adroddiad, ynghyd â chrynodeb ohono mewn ieithoedd ar wahân i Gymraeg a Saesneg ar gais, gan y:

Pwyllgor Cyfle Cyfartal

Gwasanaeth y Pwyllgorau

Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Bae Caerdydd

CF99 1NA

Ffôn: 029 2089 8149

E-bost: Linda.heard@wales.gsi.gov.uk

Bydd fersiwn electronig o’r adroddiad hwn ar gael ar dudalennau y Pwyllgor Cyfle Cyfartal

Nodiadau i Olygyddion:

  1. Lansiwyd yr adroddiad yn Adeilad y Lanfa, Bae Caerdydd.

  2. Aelodau’r Pwyllgor Cyfle Cyfartal yw Ann Jones AC, Cadeirydd, Eleanor Burnham AC, Joyce Watson AC, Nick Ramsay AC, Bethan Jenkins AC.