Pwyllgor i glywed tystiolaeth gan gwmnïau ynni ar dlodi tanwydd yng Nghymru

Cyhoeddwyd 08/04/2008   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Pwyllgor i glywed tystiolaeth gan gwmnïau ynni ar dlodi tanwydd yng Nghymru

Yr wythnos hon, bydd Pwyllgor Cynaliadwyedd y Cynulliad Cenedlaethol yn clywed am dlodi tanwydd gan Golwg ar Ynni Cymru a chwmnïau ynni.

Mae’r pwyllgor yn bryderus iawn am effaith y cynnydd mewn prisiau tanwydd ar gwsmeriaid yng Nghymru a’r ymdrechion i fynd i’r afael â thlodi tanwydd. Mae’n awyddus iawn i glywed am ganfyddiadau gwaith ymchwil Golwg ar Ynni ar brisiau trydan yng Nghymru. Mae tlodi tanwydd yn digwydd pan fydd tri ffactor – anheddau aneffeithiol o ran ynni nad ydynt wedi’u hinsiwleiddio’n dda sydd â systemau gwresogi is na’r gorau, incwm aelwydydd crynswth isel a phris tanwydd – yn cyfuno i olygu bod cysur thermol y tu hwnt i gyrraedd y cartref yr effeithir arno.

Bydd Centrica, Scottish Southern Energy, E-on, Scottish Power, RWE n-power ac EDF Energy – y prif gwmnïau sy’n darparu ynni i gwsmeriaid yng Nghymru – hefyd yn rhoi tystiolaeth yn y cyfarfod.

Cynhelir y cyfarfod am 1pm ddydd Iau 10 Ebrill yn Ystafell Bwyllgora 3, y Senedd. Gellir cael rhagor o wybodaeth yma.

Dywedodd Mick Bates AC, Cadeirydd y pwyllgor: “Mae tlodi tanwydd ac effaith y cynnydd mewn prisiau yn golygu bod llawer o bobl yn oer y gaeaf hwn. Rwyf yn edrych ymlaen at glywed canfyddiadau gwaith ymchwil Golwg ar Ynni yn y maes hwn, ac rwyf yn falch iawn bod y cwmnïau ynni wedi cytuno i roi tystiolaeth.”

Gall newyddiadurwyr ddod o hyd i wybodaeth am rôl, cyfrifoldebau a phwerau deddfu newydd y Cynulliad yn ein 'pecyn i'r cyfryngau'