Prif gynghorydd cyfreithiol y Cynulliad ar restr fer un o brif wobrau’r Deyrnas Unedig

Cyhoeddwyd 20/08/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 03/07/2015

Mae Elisabeth Jones, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cyfreithiol Cynulliad Cenedlaethol Cymru, wedi cael ei henwebu am wobr fawreddog.

Mae wedi cyrraedd rhestr fer gwobr yng nghategori Gwobrau Rhagoriaeth Cymdeithas y Gyfraith yng ngwobr Personoliaeth Cyfreithiol y Flwyddyn y Law Society Gazette.

Dywedodd Elisabeth, “cefais fy synnu fy mod ar y rhestr fer ar gyfer y wobr a chael fy nghrybwyll yn yr un gwynt â phobl enwog iawn.

“Mae’n anrhydedd cael fy enwebu gan y Law Society Gazette.

“Mae’n amser hynod o ddiddorol i fod yn gweithio fel prif gynghorydd cyfreithiol y Cynulliad, yn enwedig gyda’r achosion diweddar yn y Goruchaf Lys sy’n edrych ar gymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad yn ei gyfanrwydd.

“Gwnaeth dyfarniad diweddar y llys ar Fil y Sector Amaethyddiaeth (Cymru) newid y ffordd y gall y Cynulliad ddefnyddio ei bwerau datganoledig yn sylweddol ac rydym bellach yn aros yn eiddgar am ddyfarniad yr Ynadon ar y Bil Adennill Costau Meddygol ar gyfer Clefydau Asbestos (Cymru).

“Hoffwn achub ar y cyfle hwn i ddiolch i fy nhîm cyfreithiol yn y Cynulliad sydd wedi fy helpu i ddarparu cyngor cyfreithiol o'r radd flaenaf i’r Llywydd, Aelodau’r Cynulliad a’r uwch dîm rheoli."

Penodwyd Elisabeth Jones yn Brif Gynghorydd Cyfreithiol Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn 2012.

Cymerodd y cyn-ddisgybl 54 oed o Ysgol Gyfun Aberpennar y swydd ar ôl saith mlynedd fel Dirprwy Gyfarwyddwr Gwasanaethau Cyfreithiol gyda Llywodraeth Cymru.

Roedd Elisabeth yn arbenigo mewn cyfraith fasnachol a chyflogaeth cyn iddi adael practis cyfraith preifat ym 1990 i ymuno â Chanolfan y Gyfraith yng Nghaerloyw a oedd yn rhoi cyngor cyfreithiol am ddim.

Ar ôl ennill gradd Meistr mewn cyfraith ryngwladol, symudodd Elisabeth i Ffrainc yn 1995 i weithio yn Llys Hawliau Dynol Ewrop yn Strasbwrg. Tra oedd hi yno, rhoddodd enedigaeth i ferch, o’r enw Seren.

Cyhoeddir enillwyr gwobrau Rhagoriaeth Cymdeithas y Gyfraith ar 9 Hydref.

Menyw yn sefyll ar risiau Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cyfreithiol Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Elisabeth Jones, yn sefyll ar risiau'r Senedd