Mae pobl ifanc yng Nghymru wedi bod yn dweud wrth Bwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol y Cynulliad Cenedlaethol beth yw eu barn am faterion fel e-sigaréts, tatŵs a thyllu'r corff.
Mae'r canlyniadau'n rhan o arolwg ar gyfer y Pwyllgor wrth iddo ystyried Bil Iechyd y Cyhoedd (Cymru).
Ymhlith y canlyniadau, gwelir bod pobl ifanc 11-17 mlwydd oed a ymatebodd yn credu bod e-sigaréts yn fan cychwyn posibl i ddechrau ysmygu. Ar y llaw arall, roedd mwy na hanner y rhai 18 oed a hŷn a holwyd yn credu nad oedd hynny'n wir.
Dywedodd mwy na chwarter y bobl ifanc a holwyd eu bod wedi rhoi cynnig ar e-sigaréts, gan nodi mai eu prif reswm dros wneud hynny oedd cael "profiad newydd".
Meddai David Rees AC, Cadeirydd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol:
"Mae'r Pwyllgor yn gwerthfawrogi barn pobl ifanc yn ei waith ac yn ddiolchgar i'r cannoedd o bobl, ifanc a hŷn, a gymerodd ran yn ein harolwg am Fil Iechyd y Cyhoedd.
"Er nad yw'n sampl wyddonol, mae'r canlyniadau o leiaf yn rhoi syniad ynglŷn â safbwyntiau pobl yng Nghymru am y darn pwysig hwn o ddeddfwriaeth.
"Bydd canlyniadau'r arolwg, ynghyd â'r dystiolaeth yr ydym yn ei chasglu gan arbenigwyr, cyrff masnach, asiantaethau cyhoeddus a gwasanaethau iechyd, yn helpu'r Pwyllgor i ffurfio ei gasgliadau am y Bil."
Gofynnodd yr arolwg hefyd am farn pobl ynglŷn â chynnig ym Mil Iechyd y Cyhoedd (Cymru) i greu system drwyddedu orfodol ar gyfer pobl sy'n rhoi triniaethau fel tatŵio, tyllu'r corff, aciwbigo ac electrolysis. Roedd mwy na thri chwarter y rhai a holwyd yn cytuno â'r syniad hwn.
Roedd mwy na thri chwarter y rhai a holwyd hefyd yn cytuno â'r syniad o gyflwyno isafswm oedran o 16 i bobl gael twll mewn rhan bersonol o'r corff, fel y deth neu'r organau cenhedlu.
Ymatebodd 766 o bobl i'r arolwg; roedd 97 o'r rhain rhwng 11 a 17 mlwydd oed. Mae'r canlyniadau'n cynrychioli barn y rhai a ymatebodd, ac nid barn y cyhoedd yn ei gyfanrwydd. Nid yw'r data ystadegol yn adlewyrchu sampl gynrychiadol o'r cyhoedd.
Mae Bil Iechyd y Cyhoedd (Cymru), sydd hefyd yn cynnwys cynigion yn ymwneud â fferyllfeydd cymunedol a darpariaeth toiledau cyhoeddus, ar hyn o bryd yng Nghyfnod 1 o broses ddeddfu'r Cynulliad Cenedlaethol. Cyfnod 1 yw'r rhan o'r broses pryd mae pwyllgor yn ystyried a oes angen deddf arfaethedig ac a fydd y Bil yn cyflawni ei amcanion ai peidio.
Bydd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn cyhoeddi ei adroddiad Cyfnod 1 ar 27 Tachwedd, 2015.
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â gwasanaeth Cyfathrebu'r Cynulliad ar 0300 200 7487, neu anfonwch neges e-bost at newyddion@cynulliad.cymru.
Cyflwynwyd Bil Iechyd y Cyhoedd (Cymru) gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar 8 Mehefin 2015, a chafodd ei gyfeirio at y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar gyfer y broses graffu.
Mae mwy o wybodaeth am Fil Iechyd y Cyhoedd (Cymru) a gwaith craffu'r Pwyllgor ar gael ar-lein.
Mae canllaw i broses ddeddfwriaethol y Cynulliad hefyd ar gael.