Dylai prentisiaid a myfyrwyr gael mynediad tebyg at gymorth, meddai un o bwyllgorau'r Cynulliad Cenedlaethol

Cyhoeddwyd 14/02/2018   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 08/05/2018

​Dylai prentisiaid yng Nghymru a myfyrwyr Prifysgol gael mynediad tebyg at gymorth ariannol.


 
Dyna brif ganfyddiad Pwyllgor Economi, Seilwaith a Sgiliau y Cynulliad, a gyhoeddodd ei adroddiad diweddaraf ar brentisiaethau yng Nghymru ddydd Iau, 14 Chwefror.
 
Dywedodd Russell George AC, Cadeirydd y Pwyllgor: “Mae angen i gydraddoldeb o ran parch rhwng llwybrau galwedigaethol ac academaidd gael ei ategu gan gydraddoldeb o ran cefnogaeth i ddysgwyr. 
 
Mae achos moesol cryf i Lywodraeth Cymru ddefnyddio lefelau tebyg o gymorth gyda phrentisiaid a fyddai ar gael i'w cyfoedion mewn addysg amser llawn.”
 
Mae Llywodraeth Cymru yr wythnos hon wedi cyhoeddi ymgyrch hysbysebu i hyrwyddo pecyn newydd o fesurau ar gyfer myfyrwyr prifysgol a ddisgrifir i fod “y pecyn cymorth i fyfyrwyr mwyaf hael yn y DU”. Fodd bynnag, er bod prentisiaid ar hyn o bryd yn cael cyflog wrth hyfforddi, nid ydynt yn gymwys i gael yr un cymorth â myfyrwyr. Gall hyn wneud prentisiaeth yn llai deniadol.

Clywodd y Pwyllgor fod rhai pobl ifanc yn cael eu hatal rhag ymgymryd â phrentisiaethau oherwydd y costau cychwynnol sydd ynghlwm wrth hynny. Gall y costau hyn fod yn symiau cymharol isel o arian ar gyfer teithio a mynd i gyfweliadau, neu'r wythnosau cyntaf yn y gwaith cyn iddynt gael eu talu.

Dangosodd gwaith y Pwyllgor fod llawer o bethau cadarnhaol ynglŷn â phrentisiaethau yng Nghymru ond roedd rhai pethau annisgwyl. 
 
Ychwanegodd Mr George:
 
“Roeddem wedi synnu at y ffaith bod nifer y prentisiaid anabl yng Nghymru lawer yn is na'r gyfradd yn Lloegr. 
 
“Roeddem hefyd yn pryderu y gall prinder darparwyr fod yn atal pobl ifanc rhag ymgymryd â phrentisiaethau drwy gyfrwng y Gymraeg. 
 
“Mae gwahaniaethu ystyfnig ar sail rhywedd yn dal i fod wrth inni drafod prentisiaethau. Mae Llywodraeth Cymru a'r rhanddeiliaid yn ymrwymedig i fynd i'r afael â hyn, ac yn cymryd camau i'r perwyl hwnnw, ond mae'r cynnydd wedi bod yn araf. Nid yw’r broblem hon yn unigryw i Gymru. 
 
“Rydym yn argymell y dylid cyhoeddi ffigurau yn flynyddol i roi pwysau ac i sicrhau bod prentisiaethau yng Nghymru ar gael i bawb.”
 
Edrychodd y Pwyllgor hefyd ar rôl arweiniad gyrfaol i bobl ifanc – yn enwedig mewn ysgolion – i sicrhau eu bod yn ymwybodol o'r opsiynau galwedigaethol yn ogystal â'r opsiynau academaidd.
 
Ychwanegodd Mr George: “Yn ystod ein hymchwiliad, clywsom bryderon ynghylch y modd y mae cyngor ar yrfaoedd yn cael ei ddarparu mewn ysgolion. Mae ein gwaith craffu ychwanegol yn y maes hwn wedi rhoi'r sicrwydd inni bod gan Gyrfa Cymru gynllun credadwy, a'i fod yn gweithio'n agos â Llywodraeth Cymru ac ysgolion i fynd i'r afael â'r materion hyn. Byddwn yn cadw golwg a yw hyn yn llwyddo”.

 

 


 

Darllen yr adroddiad llawn:

Prentisiaethau yng Nghymru (PDF, 700 KB)