Cyflwyno deisebau: Whizz-Kidz

Cyhoeddwyd 12/09/2016   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 21/09/2016

Cyflwynwyd dwy ddeiseb i Bwyllgor Deisebau'r Cynulliad Cenedlaethol gan yr elusen ar gyfer plant anabl, Whizz-Kidz, yn y Senedd.

Mae'r ddeiseb gyntaf yn datgan:

"Sicrhau y gall Pobl Anabl Ddefnyddio Trafnidiaeth Gyhoeddus Pryd Bynnag y Bo'i Hangen arnynt.

"Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i sicrhau bod pobl [ifanc] anabl yn cael yr hawl i drafnidiaeth gyhoeddus hygyrch pan fo'i angen heb yr angen i gynllunio cymorth o leiaf 24 awr ymlaen llaw.

"Bydd hyn yn ein galluogi i fod yn annibynnol, chwilio am swydd, teithio i'r gwaith a chwrdd â ffrindiau ar fyr rybudd.

"Mae Llysgenhadon Whizz-Kidz hefyd yn ymgyrchu i sicrhau hyfforddiant hanfodol mewn ymwybyddiaeth o anabledd a chymorth ym maes anabledd, ar gyfer gyrwyr tacsis a bysiau yn ogystal â staff ar drenau."

Mae'r ail yn datgan:

"Cyflwyno Terfyn Uchaf ar gyfer Amseroedd Aros a Gwella Hyfforddiant i Staff sy'n Ymdrin â Cheisiadau am Addasiadau i Dai.

"Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i ymrwymo i sicrhau nad oes yn rhaid i bobl anabl yng Nghymru aros mwy na thair blynedd i gael yr addasiadau hanfodol i'w tai / y tai y mae arnynt eu hangen, ac i weithio gydag awdurdodau lleol i sicrhau bod staff sy'n ymdrin ag achosion tai ag addasiadau wedi cael hyfforddiant digonol a'u bod yn atebol am sicrhau bod anghenion unigol yn cael eu diwallu."

Mae Tîm Allgymorth Addysg y Cynulliad Cenedlaethol wedi bod yn cefnogi Whizz-Kidz trwy gynnal gweithdai etholiad, mynd i gynhadledd genedlaethol Whizz-Kidz yng Nghymru a rhoi gwybod i bobl ifanc sut y gallant ddefnyddio system ddeisebau'r Cynulliad.

Cyflwynwyd y deisebau i aelodau'r Pwyllgor Deisebau.