Camgymeriadau meddygol byw neu farw yn digwydd oherwydd cyfieithu gwael

Cyhoeddwyd 14/03/2024   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 18/03/2024   |   Amser darllen munudau

Gall rhwystrau iaith ym maes gofal iechyd achosi niwed meddygol difrifol, yn ôl adroddiad gan y Senedd.

Dywed y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol ei fod yn pryderu yn sgil tystiolaeth bod pobl o gefndiroedd lleiafrif ethnig yn parhau i wynebu canlyniadau gwaeth gan wasanaethau sector cyhoeddus yng Nghymru.

Mewn un enghraifft, clywodd y Pwyllgor fod menyw wedi methu cyfle am ddiagnosis cynnar o ganser oherwydd iddi orfod dibynnu ar berthnasau heb hyfforddiant meddygol i gyfieithu iddi.

Mae’r Pwyllgor yn galw ar Lywodraeth Cymru i roi terfyn ar y ddibyniaeth ar aelodau o’r teulu i gyfieithu fel mater o frys, a hynny fel rhan o Gynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol.

"Gall hyn olygu’r gwahaniaeth rhwng byw a marw"

Dywedodd Dr Shanti Karupiah, Is-Gadeirydd Polisi a Materion Cyhoeddus Coleg Brenhinol y Meddygon Teulu, wrth y Pwyllgor am effaith rhwystrau iaith yn y byd go iawn:

“Os nad ydych chi’n gallu siarad yr un iaith, mae’n anodd cael gofal priodol. Os bydd camddiagnosis yn digwydd, gall hyn olygu’r gwahaniaeth rhwng byw a marw. 

“Gwelais i un fenyw ganol oed oedd wedi bod yn dod i’r practis gyda phroblemau mynych gyda heintiau y llwybr wrinol. Daeth i’n gweld gyda pherthynas, a oedd yn awyddus i gyfieithu i ni.

“Roeddwn i'n amau nad oedd rhywbeth yn cael ei gyfleu’n iawn, felly awgrymais i archwiliad perineol. Datgelodd hynny fod canser ceg y groth arni, a phan wnes i roi atgyfeiriad ar ei chyfer fel achos brys oherwydd amheuaeth o ganser, daeth yn ôl fel cam 4.

“Dyna un enghraifft o rywbeth y gallem ni fod wedi sylwi arno’n gynt gyda gwell cymorth cyfieithu. Collwyd cyfle oherwydd y broblem gyfathrebu.”

"Yn amser ar gyfer gweithredu, nid geiriau"

Dywed Jenny Rathbone AS, Cadeirydd y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol, fod hyn yn dangos bod mwy i'w wneud cyn y gall Cymru ddod yn genedl wrth-hiliol.

“Roedd yn peri pryder clywed tystiolaeth am gamgymeriadau a chamddiagnosis a all ddigwydd o ganlyniad i gyfieithu annigonol. Gall y rhain ddeillio o ddefnydd cwbl amhriodol o aelodau teulu fel cyfieithwyr mewn lleoliadau meddygol, yn hytrach na gweithwyr proffesiynol hyfforddedig,” dywedodd.

“Rhaid i Lywodraeth Cymru gydnabod y gallai methu â darparu gwasanaeth cyfieithu digonol i unigolion nad ydynt yn gwbl rhugl yn y Gymraeg neu’r Saesneg mewn sefyllfa feddygol fynd yn groes i’w hawliau dynol.

“Mae ein hadroddiad yn dangos nad gofal iechyd yw’r unig wasanaeth cyhoeddus lle mae pobl o gefndiroedd lleiafrif ethnig yn cael gwasanaeth gwaeth yng Nghymru – mae angen mynd i’r afael â phroblemau yn y byd addysg a’r maes cyfiawnder troseddol hefyd.

“Mae Llywodraeth Cymru wedi gosod y nod i’w hun i Gymru fod yn genedl wrth-hiliol erbyn 2030, ymhen dim ond chwe blynedd. Mae hynny'n gofyn inni fod yn weithgar, nid yn oddefol. Gwrthsefyll, yn hytrach na derbyn y bydd gwahaniaethu hiliol yn digwydd. A chydnabod ei bod yn amser ar gyfer gweithredu, nid geiriau.”

Argymhellion

Mae'r adroddiad Gweithredu, nid geiriau: creu Cymru wrth-hiliol erbyn 2030 yn gwneud 10 argymhelliad i Lywodraeth Cymru wella’r Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol.

Mae hynny'n cynnwys cryfhau ymdrechion i ddileu’r defnydd o aelodau teulu fel cyfieithwyr mewn lleoliadau meddygol.

Mae’n galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda'r sector iechyd a gofal cymdeithasol i gynnig ffordd ddiogel o adrodd am ymddygiad hiliol; a chymryd camau i wella ymwybyddiaeth o’r agenda Cymru wrth-hiliol mewn ysgolion gyda diwrnod hyfforddi i athrawon ledled y wlad.

 


Mwy am y stori hon

Gweithredu, nid geiriau: creu Cymru wrth-hiliol erbyn 2030. Darllenwch yr adroddiad

Ymchwiliad: Cymru Wrth-hiliol