Aelodau’r Cynulliad yn ymchwilio i ddiwygio’r Polisi Pysgodfeydd Cyffredin

Cyhoeddwyd 29/09/2011   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Aelodau’r Cynulliad yn ymchwilio i ddiwygio’r Polisi Pysgodfeydd Cyffredin

29 Medi 2011

Mae grwp o Aelodau’r Cynulliad wedi cael ei ffurfio i ymchwilio i flaenoriaethau Cymru wrth ddiwygio Polisi Pysgodfeydd Cyffredin y Comisiwn Ewropeaidd.

Mae Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd y Cynulliad Cenedlaethol wedi sefydlu Grwp Gorchwyl a Gorffen sy’n cynnwys chwe Aelod ac sydd wedi’i gadeirio gan Julie James AC.

Bydd y grwp yn ymchwilio i’r materion y bydd yn rhaid i Lywodraeth Cymru eu trafod mewn perthynas â’r Polisi Pysgodfeydd Cyffredinol ac mae’n galw ar unrhyw un sydd â diddordeb yn y mater i gyflwyno tystiolaeth iddo.

Dywedodd Julie James AC, Cadeirydd y Grwp Gorchwyl a Gorffen: “Ar y cyfan, ystyriwyd fod y camau a gymerwyd i ddiwygio’r Polisi Pysgodfeydd Cyffredin y tro diwethaf yn 2002 heb arwain at sector pysgodfeydd cynaliadwy yn Ewrop.

“Mae’n hollbwysig, felly, bod y camau cywir yn cael eu cymryd y tro hwn, a bod Cymru yn sicrhau bod ei blaenoriaethau’n cael eu nodi.

“Gofynnaf i unrhyw un sydd â diddordeb yn y mater hwn i gysylltu â ni i gyflwyno eu syniadau a mynegi barn.”

Fel rhan o’i ymchwiliad bydd y grwp yn ystyried yr hyn a ganlyn:

  • Beth fydd cynigion y Comisiwn Ewropeaidd yn ei olygu i Gymru a’r ffordd y mae Parth Pysgodfeydd Cymru yn cael ei reoli? Yn benodol, a fydd cynigion y Comisiwn i ddatganoli’r rheolaeth dros y pysgodfeydd yn fanteisiol i Gymru?

  • Beth fydd cynigion y Comisiwn Ewropeaidd yn ei olygu i hyfywedd cymdeithasol ac economaidd cymunedau arfordirol yng Nghymru?

  • Pa effaith fydd newidiadau i’r sector pysgodfeydd ehangach yn Ewrop yn ei gael ar Gymru?

  • Beth ddylai Llywodraeth Cymru ei flaenoriaethu yn ei thrafodaethau ar ddiwygio’r Polisi Pysgodfeydd Cyffredin er mwyn sicrhau canlyniad buddiol i Gymru?

  • Sut all Cymru sicrhau bod ei barn yn cael ei chlywed yn ystod y trafodaethau hyn?

Grwp Gorchwyl a Gorffen yw panel o Aelodau’r Cynulliad a sefydlir gan bwyllgor i ymchwilio i fater penodol neu agwedd ar gylch gwaith y pwyllgor hwnnw. Gall y grwpiau hyn gael eu sefydlu dros dro neu’n barhaol, ac maent yn adrodd yn ôl i’r prif bwyllgor. Gall grwpiau Gorchwyl a Gorffen gynnal ymchwiliadau yn yr un modd â phwyllgorau, gan alw am dystiolaeth, clywed tystiolaeth a chynhyrchu adroddiadau ac argymhellion.

Gellir gweld rhagor o wybodaeth am y Grwp Gorchwyl a Gorffen ar y Polisi Pysgodfeydd Cyffredin, gan gynnwys ei gylch gwaith a’i aelodaeth, yma.