Y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd - Ymwchiliad i Bolisi Dwr yng Nghymru

Cyhoeddwyd 25/04/2013   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 25/04/2013

Drwy gydol mis Mawrth a mis Ebrill, cymerodd busnesau a sefydliadau ar draws Cymru ran yn ffilmio tystiolaeth fideo ar gyfer ymchwiliad y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd i bolisi dŵr yng Nghymru. O Fôn i Fynwy, mae’r tim Allgymorth wedi bod yn cyfweld unigolion o amrywiaeth o fusnesau sydd yn defnyddio llawer o ddŵr i gasglu eu barn ar y newidiadau posibl i bolisi dŵr. Plas Coch Siaradodd y Cyfwelwyr am fuddion y polisi presennol, yn ogystal â’r manteision neu’r anfanteision a allai ddod o greu marchnad agored ar gyfer dŵr, a fyddai’n galluogi busnesau yn y sectorau preifat a sefydliadau yn y sector cyhoeddus ar draws Cymru i ddewis eu darparwr dŵr eu hunain. Gallwch wylio’r fideo isod: http://www.youtube.com/watch?v=P9ovdj316us&feature=youtu.be Dywedodd Sandy McIntyre, Rheolwr Cyffredin Parc Gwyliau Plas Coch ar Ynys Môn: “Mae’n braf gweld rhywun o’r De, mae’n rhaid i mi ddweud…y broblem fwyaf yw’r cysylltiad rhwng Gogledd a De Cymru, ond mae’n syniad da y gall [Cynulliad Cenedlaethol Cymru] ddod atom ni”. Cafodd y dystiolaeth a gasglwyd a’i chynhyrchu mewn pecyn fideo ei dangos yng nghyfarfod y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd ar 17 Ebrill. Mae’r linc i’r cyfarfod ar gael yma: http://www.senedd.tv/archiveplayer.jsf Mae rhagor o wybodaeth ar yr ymchwiliad i bolisi dŵr yng Nghymru ar gael yma: http://www.senedd.cynulliadcymru.org/mgIssueHistoryHome.aspx?IId=5272