Y Cynulliad yn eich Ardal Chi - Fforwm Clwb Pobl Fyddar Castell-nedd, De Orllewin Cymru, 15 Tachwedd 2011

Cyhoeddwyd 17/11/2011   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 17/11/2011

Yn rhan o ymgynghoriad cydraddoldeb Cynulliad Cenedlaethol Cymru, rhoddodd rheolwr allgymorth de orllewin Cymru gyflwyniad i gynrychiolwyr Fforwm Clwb Pobl Fyddar Castell-nedd. Roedd y cyflwyniad yn esbonio beth mae’r Cynulliad yn ei wneud, sut mae’n cynrychioli pobl Cymru, a sut mae modd ymwneud â gwaith y Cynulliad. Yn dilyn y cyflwyniad, ymgynghorwyd â chynrychiolwyr y clwb pobl fyddar ar faterion sy’n effeithio ar gydraddoldeb. Bydd eu sylwadau yn cyfrannu at Gynllun Cydraddoldeb Strategol y Cynulliad sy’n cael ei adolygu.