Mae codi ymwybyddiaeth yn allweddol i ganfod diabetes Math 1 yn gynnar mewn plant a phobl ifanc.

Cyhoeddwyd 13/07/2018   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 13/07/2018

Erthygl gwestai gan David Rowlands AC, Cadeirydd Pwyllgor Deisebau'r Cynulliad. Dydd Gwener 13 Gorffennaf, cyhoeddodd Pwyllgor Deisebau Cynulliad Cenedlaethol Cymru ein hadroddiad ar ddeiseb sy'n galw am driniaeth well ar gyfer diabetes Math 1 mewn plant a phobl ifanc. Cyflwynwyd y ddeiseb gan y teulu Baldwin, a gollodd eu mab/brawd 13 oed, Peter, a fu farw o ganlyniad i beidio â chael ei drin yn effeithiol ar gyfer diabetes Math 1. diabetes Mae'r deisebwyr yn ceisio cael gwell cydnabyddiaeth o symptomau Diabetes Math 1 ymhlith gweithwyr iechyd proffesiynol a'r cyhoedd er mwyn cynorthwyo i gael diagnosis a thriniaeth gyflym ar gyfer plant a phobl ifanc sydd â'r cyflwr. Mae hyn yn hollbwysig oherwydd, os na wneir y diagnosis, gall y cyflwr ddatblygu'n gyflym yn fygythiad i fywyd yr unigolyn. Yn drist iawn, dyma oedd yr achos gyda Peter Baldwin. Yn benodol, mae'r teulu am sicrhau bod gan bob meddyg teulu fynediad at offer profi gwaed drwy bigo bys, a all roi syniad ar unwaith ynghylch a all plentyn fod yn ddiabetig. Mae hefyd yn hanfodol bod gweithwyr iechyd proffesiynol yn cael eu hyfforddi i adnabod symptomau mwyaf cyffredin diabetes Math 1 - y Pedwar T (Toiled, Blinder, Syched a Theneuo).

Codi ymwybyddiaeth gyda gweithwyr iechyd proffesiynol

Mae oddeutu 1,400 o blant â diabetes yng Nghymru, gyda'r mwyafrif helaeth ohonynt (96 y cant) â diabetes math 1. Trwy ystyried y dystiolaeth mewn perthynas â'r ddeiseb hon, canfuwyd fod rhywfaint o'r hyn y gallwn ei alw'n ddiffyg adnabod symptomau diabetes Math 1 ymhlith gweithwyr iechyd proffesiynol. Yn benodol, roedd peth tystiolaeth nad oedd staff rheng flaen yn edrych yn arbennig am ddiabetes Math 1 ac nad oedd y clefyd yn ffactor wrth geisio canfod yr hyn oedd yn bod ar gleifion. Y broblem, wrth gwrs, yw bod llawer o'r symptomau sy'n gysylltiedig â diabetes math 1 hefyd yn gysylltiedig â nifer o broblemau iechyd eraill. Golyga hyn, pan fydd claf yn mynd i weld meddyg teulu, efallai y bydd yn cyflwyno nifer o wahanol symptomau a allai fod yn gysylltiedig â diabetes Math 1, ond gallai hefyd fod yn ddangosyddion ar gyfer cyflyrau eraill, felly mae gan y Pwyllgor rywfaint o gydymdeimlad â meddygon teulu yn hynny o beth. Mae ein hadroddiad yn cynnwys 10 argymhelliad, ond pe baem am dynnu sylw at yr hyn yr ydym ni'n ei deimlo yw'r ffactor pwysicaf, hwnnw fyddai hyfforddi staff rheng flaen i gydnabod canllawiau NICE. Mae angen i weithwyr iechyd proffesiynol fod yn ymwybodol iawn, pan fydd cleifion yn cyflwyno'r symptomau hyn, y gallai fod yn arwydd o ddiabetes Math 1. Gall canlyniadau methu â chanfod a thrin y clefyd o fewn cyfnod byr iawn o amser, fel yr ydym wedi'i weld yn achos trist iawn Peter Baldwin, fod yn gwbl drasig.

Troi craffu'n weithredu

Yn achos y ddeiseb arbennig hon, gan ein bod wedi cyhoeddi ein hadroddiad a'i gyflwyno i Lywodraeth Cymru, dyna cyn belled ag y gallwn fynd am y tro. Bellach Llywodraeth Cymru sy'n penderfynu beth i'w wneud nesaf a byddem yn gobeithio y bydd yn gweithredu ar ein hargymhellion Hoffem fanteisio ar y cyfle hwn i gydnabod dewrder y teulu Baldwin. Drwy ddod â'r ddeiseb hon atom, roedd yn rhaid iddyn nhw ail-adrodd a chofio amgylchiadau trasig iawn eu profiad gryn amser ar ôl iddo ddigwydd mewn gwirionedd. Mae'r Pwyllgor wedi bod yn gefnogol iawn i'r cynigion a gyflwynwyd ganddynt yn eu deiseb. Y peth da am y Pwyllgor Deisebau yw ei fod yn borth i bobl gael mynediad uniongyrchol at Gynulliad Cymru. Mae hynny'n golygu os oes gan bobl bryderon neu anawsterau y maen nhw am eu cyflwyno, drwy'r broses ddeisebau, caiff ei ystyried gyda chryn waith craffu. Er na fydd pob deiseb yn arwain at ddadl yn y Siambr, mae'r broses o ymgysylltu â deisebwyr, ysgrifennu at Ysgrifenyddion perthnasol y Cabinet, cael yr atebion, ysgrifennu at randdeiliaid eraill ac ati yn golygu bod llawer iawn yn digwydd. Efallai na fydd yn amlwg ar unwaith i'r cyhoedd yn gyffredinol ond gallaf eich sicrhau bod y lefel uchel o graffu ar gael ar gyfer unrhyw ddeiseb a ddaw gerbron y pwyllgor deisebau. --- Gwnaethom ofyn i Beth sut y teimlai am yr adroddiad: [youtube https://www.youtube.com/watch?v=Qsm9kqrF16k&w=560&h=315] --- Darllenwch yr adroddiad llawn: Sgrinio Rheolaidd ar gyfer Diabetes Math 1 mewn Plant a Phobl Ifanc (PDF) --- David Rowlands AC yw Cadeirydd Pwyllgor Deisebau'r Cynulliad. Mae'r pwyllgor yn ystyried yr holl ddeisebau a gyflwynir i'r Cynulliad gydag o leiaf 50 o lofnodion. Deisebu'r Cynulliad yw un o'r ffyrdd mwyaf uniongyrchol y gall aelod o'r cyhoedd godi materion sy'n peri pryder gyda'r Cynulliad, neu awgrymu polisïau newydd a gwahanol ffyrdd o wneud pethau. Gallwch ganfod mwy am sut i ddeisebu'r Cynulliad yn cynulliad.cymru/deisebau a gallwch ddilyn Pwyllgor Deisebau'r Cynulliad ar Twitter yn @SeneddDeisebau.