Archesgob Caergaint i ymweld ag ystâd Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Cyhoeddwyd 22/02/2012   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 22/02/2012

Er Lles Pawb: beth sy’n troi cymdeithas yn gymuned? Mae’n bleser gan Rosemary Butler AC, Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru, eich gwahodd i ymuno â hi i groesawu Dr Rowan Williams, Archesgob Caergaint, i’r Pierhead fel rhan o’i daith flynyddol o gwmpas Cymru. Bydd yr Archesgob yn trafod ei farn ar beth sy’n uno ac yn cryfhau cymunedau, ac yna’n cymryd rhan mewn sesiwn holi ac ateb, a gaiff ei chadeirio gan Betsan Powys, Golygydd Gwleidyddol ar gyfer BBC Cymru. Bydd y tocynnau’n yn cael eu rhyddhau am 14.00 ddydd Llun 5 Mawrth. Caniateir hyd at dau docyn i bob person. I gael tocyn, cysylltwch â: Archebu@cymru.gov.uk / 0845 010 5500 Archesgob Caergaint Sesiwn y Pierhead Dydd Llun 26 Mawrth 13.00 – 14.00 Archesgob Caergaint - Sesiwn y Pierhead