Pobl y Senedd

Delyth Jewell AS

Delyth Jewell AS

Aelod Rhanbarthol o’r Senedd

Plaid Cymru

Grŵp Plaid Cymru

Dwyrain De Cymru

Fy Ngweithgareddau yn y Senedd

Pa gymorth y mae Llywodraeth Cymru yn ei ddarparu i estyn y cynllun llwyddiannus gadael ni chwarae i ailddefnyddio dillad chwaraeon ledled Cymru?

Wedi'i gyflwyno ar 16/05/2024

Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael gyda Cyfoeth Naturiol Cymru ac awdurdodau lleol yng Nghymru ynghylch lliniaru tir ac afonydd sydd wedi'u halogi gan fwyngloddio metel h...

Wedi'i gyflwyno ar 09/05/2024

Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o'r safleoedd yn Nwyrain De Cymru sydd wedi'u halogi â metelau trwm ger lle mae pobl yn byw, yn dilyn tystiolaeth a roddwyd ar 08 Mai 2024...

Wedi'i gyflwyno ar 09/05/2024

Mae'r Senedd hon: 1. Yn llongyfarch Jak Jones o Gwmbrân ar gyrraedd rownd derfynol Pencampwriaeth Snwcer y Byd 2024. 2. Yn cydnabod y cyfraniadau rhagorol i snwcer a wnaed gan bobl er...

I'w drafod ar 08/05/2024

Cynnig bod y Senedd: 1. Yn nodi: a) ddeng mlynedd yn ôl, pasiodd y Senedd Ddeddf Teithio Llesol (Cymru) 2013 o’r radd, gyda'r nod o sefydlu'r seilwaith a fyddai'n ei gwneud hi'n haws ac...

I'w drafod ar 02/05/2024

Pa gymorth sydd ar gael i famau newydd a menywod beichiog yng Nghymru?

Wedi'i gyflwyno ar 01/05/2024

Rhagor o wybodaeth a digwyddiadau yn y calendr

Gwybodaeth fanwl: Delyth Jewell AS

Bywgraffiad

Hanes personol

Ganed Delyth Jewell yng Nghaerffili, tyfodd i fyny yn Ystrad Mynach, ac aeth i Ysgol Gyfun Cwm Rhymni ym Margoed, cyn mynd ymlaen i astudio ym Mhrifysgol Rhydychen, lle graddiodd mewn Iaith a Llenyddiaeth Saesneg a Gradd Meistr mewn Astudiaethau Celtaidd.

Cefndir proffesiynol

Ar ôl graddio o’r Brifysgol, gweithiodd Delyth fel ymchwilydd ac ysgrifennwr areithiau i Aelodau Seneddol Plaid Cymru yn San Steffan o dan arweinyddiaeth Elfyn Llwyd AS.  Yn 2014, enillodd Wobr Ymchwilydd y Flwyddyn am ei gwaith yn braenaru’r tir ar gyfer deddfwriaeth ar  stelcio a thrais domestig.  Yn ddiweddarach, gweithiodd i Gyngor ar Bopeth ac Action Aid.

Hanes gwleidyddol

Yn 2019, tyngodd Delyth lw fel Aelod Plaid Cymru o’r Senedd dros Ddwyrain De Cymru, yn dilyn marwolaeth Steffan Lewis, ac fe’i henwyd yn llefarydd ei phlaid ar Brexit a Materion Allanol.  Yn 2021, ail-etholwyd Delyth yn Aelod o’r Senedd dros Ddwyrain De Cymru, ac mae wedi cael ei phenodi yn llefarydd ei phlaid ar newid hinsawdd, trafnidiaeth ac ynni.

Aelodaeth

Tymhorau yn y swydd

  1. 08/02/2019 - 28/04/2021
  2. 08/05/2021 -

Gweld y Gofrestr Fuddiannau Gyfredol

Aelodaeth o Grwpiau Trawsbleidiol

Etholiadau

Asedau'r Cyfryngau

Digwyddiadau calendr: Delyth Jewell AS