23/11/2010 - Cynigion â Dyddiad Trafod a Gwelliannau

Cyhoeddwyd 07/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 07/06/2014

Cynigion a Gwelliannau i’w Trafod ar 16 Tachwedd 2010

Cynigion a gyflwynwyd ar 23 Tachwedd 2010

NDM4591 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 24.4:

Yn cymeradwyo bod y fersiwn drafft o’r Gorchymyn Eithriadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) 2010 yn cael ei lunio yn unol â’r fersiwn drafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 22 Hydref 2010

NDM4592 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn croesawu'r cynnydd sy'n parhau i gael ei wneud ar weithredu rhaglen Cymru'n Un Llywodraeth y Cynulliad.

Gallwch weld dogfen Cymru'n Un drwy glicio ar y ddolen hon:  

http://wales.gov.uk/about/programmeforgovernment/strategy/publications/onewales/?skip=1&lang=cy

NDM4593 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn nodi 'Uchelgeisiau i’r dyfodol: datblygu gwasanaethau gyrfaoedd yng Nghymru' ac yn croesawu cynnig Llywodraeth y Cynulliad i sefydlu strwythur sy'n uno ar gyfer Gyrfaoedd Cymru.

Cafodd gopi o 'Uchelgeisiau i’r dyfodol: datblygu gwasanaethau gyrfaoedd yng Nghymru' ei anfon drwy'r e-bost at Aelodau'r Cynulliad ddydd Mawrth 16 Tachwedd 2010.

Gwelliannau a gyflwynwyd ar 18 Tachwedd 2010

Cynnig bod y Cynulliad yn penderfynu mabwysiadu’r gwelliannau isod i gynigion:

NDM4592

1. Nick Ramsay (Mynwy)

Ar ôl ‘Llywodraeth y Cynulliad' rhoi:

Ond yn mynegi pryder ynghylch y diffygion parhaus mewn perfformiad ar draws gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru.

2. Peter Black (Gorllewin De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn gresynu bod Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi methu buddsoddi digon mewn uwchraddio adeiladau ysgolion yn ystod y cyfnod o dwf yn y gyllideb, fel y gosodir allan yn Cymru'n Un.

3. Peter Black (Gorllewin De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn gresynu wrth y methiant parhaus i gyrraedd y targedau amseroedd aros sydd wedi'u gosod allan yn Cymru'n Un.

4. Peter Black (Gorllewin De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn gresynu wrth fethiant Llywodraeth Cynulliad Cymru i gynyddu'r cyflenwad o dai fforddiadwy fel sydd wedi'i osod allan yn Cymru'n Un.

NDM4593

1. Nick Ramsay (Mynwy)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i weithredu argymhellion yr adroddiad Uchelgeisiau i'r dyfodol yn llawn mewn ffordd amserol a phriodol.

2. Peter Black (Gorllewin De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn credu ei bod yn rhaid rhoi cyngor gyrfa heb ragfarn ac er budd y myfyriwr.

3. Peter Black (Gorllewin De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn credu y dylid integreiddio entrepreneuriaeth gymdeithasol i'r cyngor gyrfa a roddir gan y corff gyrfaoedd newydd.