Y Farchnad

Cyhoeddwyd 08/04/2024   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 17/04/2024   |   Amser darllen munudau

Rydym yn lansio math newydd o ddigwyddiad sy’n ystyried adborth Aelodau o’r Senedd ynghylch sut maen nhw am ddefnyddio’r Ystad yn y cyfnod ar ôl y cyfyngiadau symud.

Bydd Y Farchnad yn dod â lleisiau o bob rhan o Gymru a phob sector o gymdeithas i’r Senedd bob mis. Bydd Y Farchnad yn gyfle i’ch llais gael ei glywed yn eich Senedd chi er mwyn llunio eich dyfodol.

Bydd Y Farchnad yn dod ag amrywiaeth o faterion, grwpiau cymunedol a phynciau i’r amlwg, gyda chynrychiolwyr yn cynnal stondinau mewn marchnadle lle y gall gwesteion alw heibio a chwrdd â’r sefydliadau sy’n cymryd rhan ar y diwrnod hwnnw.

  • Bydd Y Farchnad yn cael ei chynnal ar y trydydd dydd Mawrth ym mhob mis, yn lle’r sesiynau galw heibio cyson a gynhelid gan sefydliadau yn ystafelloedd bwyta Tŷ Hywel.
  • Cynhelir Y Farchnad yn Oriel y Senedd, o 10:00 tan 15:00.
  • Bydd pob sefydliad yn cael bwrdd sydd â lle i faner godi o faint safonol.
  • Gall sefydliadau ddod â deunyddiau gwybodaeth megis taflenni neu adroddiadau a'u dyfais eu hunain, megis gliniadur.
  • Mae Wi-Fi ar gael i bob gwestai, ond ni ellir gwarantu mynediad at ffynonellau trydan ar y safle. Ni fydd cymorth clyweledol yn cael ei ddarparu.
  • Gall sefydliadau archebu detholiad bach o frechdanau neu bice ar y maen drwy ein cyflenwr arlwyo ar gyfer eu stondinau. Rhoddir rhagor o wybodaeth am hyn pan fydd eich bwrdd wedi'i archebu.

I gymryd rhan yn Y Farchnad, rhaid i sefydliadau sicrhau bod ganddynt Nawdd Aelod. Mae croeso i Aelodau noddi mwy nag un sefydliad mewn digwyddiad.

Llenwch ffurflen gais.

Ceir rhagor o wybodaeth am ein fformat Marchnad ar ein tudalen Cwestiynau Cyffredin.