Pierhead exterior

Pierhead exterior

Mannau digwyddiadau y Pierhead

Cyhoeddwyd 29/09/2023   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 17/02/2024   |   Amser darllen munudau

Mae’r Pierhead yn adeilad rhestredig gradd 1 ar ystâd y Senedd ym Mae Caerdydd. Mae’n un o dirnodau mwyaf adnabyddus Caerdydd, ac fe’i hadeiladwyd ym 1897 yn bencadlys Cwmni Doc Bute. Mae’r Pierhead yn un o adeiladau mwyaf eiconig y ddinas, ac mae wedi’i leoli ym Mae Caerdydd, sydd bellach wedi ei adfywio. Mae nifer o ystafelloedd trawiadol yn yr adeilad y gellir cynnal digwyddiadau ynddynt.

Gellir cynnal digwyddiadau yn y Pierhead:

  • Dydd Llun i ddydd Gwener 09:30 – 16:30
  • Dydd Mawrth i ddydd Iau 18:00 – 20:00 

Neuadd Fawr

Lleoliad delfrydol ar gyfer cynnal:

  • Cynadleddau
  • Perfformiadau
  • Derbynfeydd
  • Darlithoedd
  • Digwyddiadau rhwydweithio

Capasiti:

Seddi ar ffurf theatr: 100

Arddull cabaret (byrddau crwn): 100

Sefyll: 140

Sylwch fod yr holl capasiti a ddangosir yn seiliedig ar y dodrefn lleiaf posibl yn yr ystafell. Gall y capasiti amrywio yn dibynnu ar weithgareddau eraill y Senedd.

Mesuriadau Prif Neuadd y Pierhead

15 x 13 Metr

Mynediad

Mae pob llawr yn y Pierhead yn gwbl hygyrch.