Tardis a Dalek

Cyhoeddwyd 20/11/2023   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 21/11/2023   |   Amser darllen munudau

Props o Doctor Who, cyfres deledu ar y BBC
Noddir gan y Llywydd, y Gwir Anrh. Elin Jones AS

Dyddiadau: 24 Tachwedd – 2 Rhagfyr
Lleoliad: Oriel y Senedd

 

Mae’r Senedd yn falch o fod yn rhan o’r dathliadau i nodi pen-blwydd cyfres deledu Doctor Who yn 60 oed.

Mae anturiaethau epig y Doctor ar draws y Gofod ac Amser wedi rhoi adloniant a mwynhad i gynulleidfaoedd dros y degawdau ac rydym yn ymfalchïo yn y ffaith ei fod yn cael ei greu yma yng Nghymru. 

Mae'r Senedd wedi bod yn lleoliad ffilmio i Doctor Who ar sawl achlysur. Efallai y bydd y lleoliadau mewn pennod yn y drydedd gyfres, ‘The Lazarus Experiment’ yn gyfarwydd ichi.

Er mwyn dathlu’r achlysur, ymddangosodd pob un o'r 800 o benodau ar BBC iPlayer ar 1 Tachwedd.

 

Clip o 'The Lazarus Experiment’ ©BBC