Y Pwyllgor Archwilio i drafod contract TGCh “Merlin”

Cyhoeddwyd 06/04/2006   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Y Pwyllgor Archwilio i drafod contract TGCh “Merlin”

06 Ebrill 2006

Bydd Pwyllgor Archwilio'r Cynulliad Cenedlaethol yn pwyso a mesur adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru ar y contract i ddarparu gwasanaethau TGCh a newid busnes i'r Cynulliad.

Yn ei adroddiad, dywedodd Jeremy Colman, yr Archwilydd Cyffredinol, fod swyddogion wedi ymdrin â'r gwaith o gaffael contract “Merlin” yn dda at ei gilydd a'u bod wedi llwyddo i arbed arian o'i gymharu â'r contract blaenorol. Er hynny, galwodd ar swyddogion i ofalu bod y contract yn sicrhau gwerth am arian a bod yr holl fanteision yn cael eu gwireddu. Bydd yr Ysgrifennydd Parhaol, Syr Jon Shortridge, ynghyd ag un o uwch swyddogion eraill Llywodraeth Cynulliad Cymru, Michael Harrington, yn rhoi tystiolaeth i'r Pwyllgor. Cynhelir y cyfarfod am 9.30am ddydd Iau 6 Ebrill yn Ystafell Bwyllgora 3, y Senedd, Bae Caerdydd. Manylion llawn ac Agenda