Mae deiseb yn galw am wahardd defnyddio anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau yng Nghymru wedi dod i law Pwyllgor Deisebau'r Cynulliad Cenedlaethol.
Dyma eiriad llawn y ddeiseb:
Rydym ni, sydd wedi llofnodi isod:
- Yn credu na all anghenion cymhleth anifeiliaid gwyllt gael eu bodloni'n ddigonol mewn amgylchedd syrcas;
- Yn nodi bod anifeiliaid gwyllt yn parhau i wynebu'r posibilrwydd o fywyd mewn amgylchedd syrcas anaddas yng Nghymru;
- Yn annog Llywodraeth Cymru i sicrhau bod gwaharddiad llwyr ar ddefnyddio anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau yn cael ei gyflwyno yng Nghymru cyn gynted ag y bo modd.
Casglodd y ddeiseb dros 7,000 o lofnodion a chafodd ei chyflwyno gan RSPCA Cymru.
Mae deiseb yn ffordd o ofyn i'r Cynulliad ystyried unrhyw fater, problem neu gynnig y mae gan y Cynulliad bŵer i wneud rhywbeth yn ei gylch.