Mae deg blaenoriaeth a ddylai lunio masnachfraint rheilffyrdd newydd Cymru yn ôl un o bwyllgorau Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Mae'r rhestr o flaenoriaethau – sy'n cynnwys trenau newydd, gwell cyfathrebu, prisiau fforddiadwy a rheilffordd fwy gwyrdd – yn rhan o adroddiad manwl yn edrych ar y broses uchelgeisiol ac arloesol i ddyfarnu contract newydd i redeg rheilffyrdd Cymru.
Yn ôl Russell George, Cadeirydd Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau y Cynulliad Cenedlaethol: “Nid yw dyfarnu masnachfraint rheilffyrdd yn syml. Felly, mae'r ffaith bod Llywodraeth Cymru yn gosod masnachfraint am y tro cyntaf yn her a hanner. Heb unrhyw brofiad blaenorol, mae'n gwneud popeth o'r newydd. Byddai hynny ar ben ei hun yn gallu achosi oedi.
“Ond, mae amgylchiadau eraill – gan gynnwys oedi dros ddatganoli pwerau i Lywodraeth Cymru, ansicrwydd ynghylch cyllid, a'r trenau hŷn sy'n rhedeg yng Nghymru – gyda'i gilydd yn gwneud tasg Llywodraeth Cymru yn arwrol o uchelgeisiol.
“Mae'r adroddiad yn edrych ar yr heriau sy'n wynebu Llywodraeth Cymru ac eraill wrth i ni agosáu at bwynt pwysig yn hanes y rhwydwaith rheilffyrdd yng Nghymru. Mae'n tynnu sylw at ein pryderon mewn nifer o feysydd, ac yn nodi sut mae angen i'r gronfa gynyddol o sefydliadau sydd ynghlwm â rhedeg gwasanaethau rheilffyrdd yng Nghymru a'r Gororau gydweithio os yw pobl Cymru am gael gwasanaethau rheilffyrdd o'r 21ain Ganrif y maent yn galw amdano.
“Rydym hefyd wedi llunio deg blaenoriaeth allweddol a ddylai fod yn rhan o'r fanyleb derfynol i'r rhai sy'n gobeithio rhedeg ein rheilffyrdd yn y dyfodol.”
Roedd gwaith y Pwyllgor yn cynnwys arolwg o bron i 3,000 o ddefnyddwyr rheilffyrdd yn ardal Cymru a'r Gororau, a oedd yn dangos mai blaenoriaeth bennaf teithwyr oedd gwasanaethau prydlon a dibynadwy, a chael digon o seddi i bawb sy'n teithio.
Darllen yr adroddiad llawn:
Ar y trywydd iawn? Masnachfraint y Rheilffyrdd a Metro De Cymru (PDF, 1 MB)
Cynhaliodd y Pwyllgor gyfarfod i randdeiliaid yn yr Amwythig hefyd i glywed yn uniongyrchol gan deithwyr o ochr Lloegr y ffin a oedd yn poeni y byddai eu llais yn cael ei wthio i'r cyrion o dan y weithdrefn newydd, ac mae'r Pwyllgor yn argymell y dylai strwythurau ymgysylltu cadarn â theithwyr a rhanddeiliaid fod ar waith i sicrhau bod safbwyntiau pob defnyddiwr wrth wraidd y fasnachfraint – gan gynnwys y rhai yn Lloegr. Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth hefyd gan amrywiaeth eang o arbenigwyr, sefydliadau rheilffyrdd a'r cyhoedd.
Mae'r adroddiad yn gwneud 19 argymhelliad gan gynnwys galwadau am fod yn fwy agored yn y broses, diwedd i'r oedi wrth drosglwyddo pwerau o San Steffan, a llinellau atebolrwydd cliriach yn Trafnidiaeth Cymru – y corff newydd fydd yn goruchwylio'r fasnachfraint rheilffyrdd.
Mae Llywodraeth Cymru yn disgwyl llunio ei manyleb derfynol ar gyfer y Fasnachfraint Rheilffyrdd ym mis Gorffennaf.
Deg blaenoriaeth ar gyfer Masnachfraint newydd Cymru a'r Gororau
Monitro effeithiol
Dylai mesurau perfformiad gynnwys:
- boddhad teithwyr (fel y mesurir gan yr Arolwg Cenedlaethol o Deithwyr Trenau)
- prydlondeb,
- dibynadwyedd,
- cynnydd mewn teithwyr,
- a chyflwr a gwaith cynnal a chadw cerbydau.
Rheilffordd gwyrddach
Mae angen i'r fasnachfraint roi sylw llawn i ymrwymiadau amgylcheddol Llywodraeth Cymru lleihau allyriadau CO2 a darparu gwasanaeth gwyrddach a glanach yn ystod y fasnachfraint.
Rhwydwaith integredig
Amserlenni wyneb cloc lle bo modd mewn masnachfraint sy'n blaenoriaethu integreiddio, gan gynnwys tocynnau clyfar a chysylltiadau effeithiol â'r rhwydwaith bysiau a gwasanaethau trên eraill;
Gwasanaethau hyblyg
Parodrwydd i ystyried llwybrau a gwasanaethau newydd ac amlder gwasanaethau sy'n diwallu anghenion teithwyr;
Prisiau fforddiadwy
Prisiau fforddiadwy ag opsiynau clir a syml o ran tocynnau;
Trenau newydd
Digon o gerbydau o ansawdd uchel sy'n bodloni'r galw nawr ac yn y dyfodol, sy'n hygyrch ac sydd â digon o le i ddefnyddwyr cadeiriau olwyn a chŵn tywys, a lle i fagiau, beiciau a phramiau. Dylid hefyd gynnig cysylltedd Wi-Fi, socedi USB / plwg, aerdymheru / gwres, cyfleusterau glanach a digon o doiledau gan gynnwys cyfleusterau newid cewynnau; gwasanaethau arlwyo a lluniaeth sy'n briodol ar gyfer teithiau hir; ac aelod o staff ar gael ar y trên y gellid cysylltu ag ef;
Gwell cyfathrebu
Gwell gwybodaeth a chyfathrebu ar drenau am gysylltiadau ac oedi;
Gorsafoedd modern
Gorsafoedd sy'n bodloni disgwyliadau teithwyr neu'n rhagori arnynt, ymrwymiad i brosiectau rheilffordd cymunedol a chyllid ar eu cyfer;
Prisiau teg
Systemau diogelu refeniw effeithiol er mwyn sicrhau y gall teithwyr dalu pris teg a'u bod yn gwneud hynny;
arfu Llai
Rheoli oedi ac amharu'n well.