Pwyllgor yn cefnogi gwaharddiad ar anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau

Cyhoeddwyd 06/12/2019   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 06/12/2019

​Holi pam mae hyn yn cael ei flaenoriaethu o flaen materion lles anifeiliaid eraill


Mae cynigion gan Lywodraeth Cymru i wahardd defnyddio anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau teithiol yng Nghymru wedi cael eu cefnogi gan fwyafrif aelodau y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Materion Gwledig yn y Cynulliad Cenedlaethol.

Fodd bynnag, mae'r Pwyllgor wedi cwestiynu pam y dylid blaenoriaethu gwaharddiad ar yr arfer o flaen ystod o faterion pwysig o ran lles anifeiliaid, fel ffermio cŵn bach. 

Ar hyn o bryd, nid oes unrhyw syrcasau Cymreig gydag anifeiliaid gwyllt yn weithredol, ond mae syrcasau o wledydd eraill yn ymweld ac yn gallu defnyddio anifeiliaid gwyllt yn gyfreithlon fel rhan o’u perfformiadau. Bydd y gwaharddiad yn effeithio ar ddau syrcas teithiol yn y DU, sy'n berchen ar gyfanswm o 19 o anifeiliaid gwyllt.
Mae'r Bil yn gymwys i anifeiliaid gwyllt yn unig, nid anifeiliaid dof; mae'n gymwys i syrcasau teithio, ond nid rhai sefydlog. Ni fydd anifeiliaid sy'n cael eu harddangos at ddibenion adloniant mewn lleoliadau heblaw syrcasau teithiol yn cael eu gwahardd ond byddant yn cael eu rheoleiddio. 

Dywed y Pwyllgor ei fod yn unfrydol yn ei gefnogaeth barhaus i les pob anifail, ond nad oedd wedi gallu dod i farn unfrydol ynghylch a ddylai'r Bil hwn fynd yn ei flaen. Gan fod mwyafrif aelodau'r Pwyllgor yn cefnogi'r Bil, mae’n argymell bod y Cynulliad yn derbyn egwyddorion cyffredinol y Bil.

Wrth graffu ar y ddeddfwriaeth arfaethedig, cynhaliodd y Pwyllgor ymgynghoriad cyhoeddus, yn ogystal â chlywed tystiolaeth gan syrcasau, sefydliadau lles anifeiliaid a Llywodraeth Cymru. 

Dywedodd Mike Hedges AC, Cadeirydd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Materion Gwledig:

“Mae defnyddio anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau teithiol yn fater emosiynol. Clywodd y Pwyllgor ddadleuon cryf gan ddwy ochr y ddadl ynghylch pethau da a drwg yr arfer hwn. 

“Mae’r ffaith bod Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno’r Bil ar resymau moesegol wedi codi rhai cwestiynau heriol, fel pam ei bod yn dderbyniol yn foesegol i anifeiliaid gwyllt berfformio mewn lleoliadau eraill ond nid mewn syrcasau? Pam ei bod yn dderbyniol yn foesegol i anifeiliaid dof berfformio mewn syrcasau? A ddylid disgwyl i unrhyw anifail berfformio at ddibenion adloniant yn unig?
 
“Nid yw Llywodraeth Cymru wedi ateb rhai o’r cwestiynau hyn. Rydym yn disgwyl iddi wneud hynny os bydd y Bil yn mynd yn ei flaen. Er nad oes gan y Pwyllgor farn unfrydol ynghylch a ddylai'r Bil fynd yn ei flaen, mae mwyafrif yr Aelodau'n cefnogi'r Bil.”