Linda Drew

Linda Drew

Wedi'u diystyru, eu bychanu a heb lais: Pryderon canser menywod ddim yn cael eu cymryd o ddifrif

Cyhoeddwyd 06/12/2023   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 06/12/2023   |   Amser darllen munudau

Yn rhy aml, mae menywod yn cael eu hanfon adref gyda diagnosis ar gyfer salwch mwy cyffredin pan, mewn gwirionedd, fydd ganddynt ganser gynaecolegol.

Mae menywod yn teimlo bod eu pryderon yn aml yn cael eu diystyru neu eu bychanu, ac fe'u gwneir i deimlo fel niwsans niwrotig yn ôl tystiolaeth a glywyd gan un o bwyllgorau’r Senedd.

Heddiw, 6 Rhagfyr 2023, mae Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol y Senedd wedi cyhoeddi adroddiad ar ofal canser gynaecolegol yng Nghymru - "Heb lais: Taith menywod drwy ganser gynaecolegol"

Mae'n cynnwys 26 o argymhellion i Lywodraeth Cymru ynghylch sut y dylid cefnogi gwasanaethau iechyd menywod yn well a sut i ddileu rhagfarn beryglus sy'n peryglu bywydau.

Yn ystod eu gwaith, clywodd aelodau’r Pwyllgor dystiolaeth bwerus ynghylch bywydau menywod sydd wedi eu newid am byth am fod eu pryderon wedi eu diystyru dro ar ôl tro gan weithwyr gofal iechyd proffesiynol.

Stori Claire

Cafodd Claire O’Shea o Gaerdydd ddiagnosis o Leiomyosarcoma y Groth, sef canser prin a ffyrnig, ddwy flynedd bron ar ôl iddi nodi ei symptomau gyntaf gyda'i meddyg teulu.  

“Roeddwn i wedi bod yn mynd yn ôl ac ymlaen at fy meddyg teulu dros sawl mis. Fe wnes i barhau i fynd yn ôl ac ymlaen, a chefais ddiagnosis o syndrom coluddyn llidus (IBS) - a chefais feddyginiaeth ar ei gyfer. Roeddwn i’n gwybod nad IBS oedd o,” meddai Claire yn ei thystiolaeth i’r Pwyllgor.

“Es i Istanbul ar wyliau gyda ffrindiau, ac fe es i hammam, sef bath Twrcaidd ble rydych chi'n cael eich golchi a’ch tylino, a phan oeddwn i yno fe stopiodd y ddynes tylino yn sydyn a dweud, mewn Saesneg bratiog, "Lady, baby?" gan feddwl fy mod i’n feichiog.

“Fe es i'n welw. Roeddwn i’n gwybod nad oeddwn i’n feichiog, ond roedd yn amlwg iawn i mi bryd hynny fod y lwmp, mewn gwirionedd, yn ôl pob tebyg yn fy organau atgenhedlu. A dwi'n cofio siarad â fy ffrindiau ar y pryd, a dweud, “Sut mae masseuse o Dwrci yn gallu dweud wrtha i beth sydd o'i le yn well nag y gwnaeth fy meddyg teulu ers misoedd?”

Ers cymryd rhan yn yr ymchwiliad gyntaf, mae canser Claire bellach ar gam 4 ac wedi lledu i'w iau, ei hysgyfaint a'i hesgyrn. Mae Claire yn rhannu ei hanes er mwyn codi ymwybyddiaeth o Leiomyosarcoma y Groth.

Stori Judith

Cysylltodd Judith Rowlands, o Ynys Môn, â'i meddyg teulu pan ddechreuodd waedu ar ôl y menopos. Cafodd bresgripsiwn am therapi adfer hormonau (HRT), ond pan barhaodd y gwaedu roedd yn gwybod bod rhywbeth o'i le, gan fod ei mam hefyd wedi cael diagnosis o ganser yr ofari. Yn y pen draw, cafodd Judith ddiagnosis o ganser endometraidd a chafodd hysterectomi.

Fodd bynnag, ar ôl yr hysterectomi, profodd Judith boen ofnadwy a oedd yn dechrau yn ei stumog ac yn effeithio ar ei choes cynddrwg, nes roedd hi’n methu â cherdded.

“Roeddwn i’n dweud a dweud, 'Rwy'n credu bod gen i ganser o hyd.'” meddai Judith yn ei thystiolaeth i’r Pwyllgor.

Fodd bynnag, teimlai ei meddygon nad oedd hyn yn wir, a mynnodd na fyddent yn disgwyl gweld y math hwnnw o ganser yn dod yn ôl. Er gwaethaf cael ei chyfeirio at glinig poen, parhaodd Judith i gael poenau difrifol, ac ymhen amser cafodd ei hanfon i gael sgan ar ôl mynd i uned gofal brys oherwydd y boen. Datgelodd y sgan fod y canser wedi dychwelyd ac nad oedd gwella arni mwyach.

“Mae’r canser yn fy mhelfis, mae gen i ddau diwmor mwy ac maen nhw’n union lle mae’r boen wedi bod, yn union yno,” meddai Judith yn ei thystiolaeth. “Fe es i mewn i’r ysbyty yn iach, ar wahân i’r canser yr oeddem yn mynd i gael gwared arno, ond pan es i allan roeddwn i wedi colli popeth.”

Roedd Judith eisiau i'w hanes gael ei adrodd yn y gobaith y gall atal menywod eraill rhag cael yr un profiad ag a gafodd hi. Bu farw Judith ym mis Mai 2023, yn fuan ar ôl i’w fideo gael ei ddangos i’r Pwyllgor.

Stori Linda

Nid oedd Linda Drew, o Fro Morgannwg, yn gwybod am ganser yr ofari hyd nes iddi gael diagnosis ac mae'n credu bod diffyg ymwybyddiaeth yn broblem sy'n atal pobl rhag cael triniaeth amserol.

“Gwelais y rhestr hon ac roeddwn i, yn llythrennol, wedi ticio pob un o’r symptomau: y stumog yn chwyddedig, poen yn y stumog, yr angen i fynd i bi-pi yn amlach, blinder eithafol. Pe bawn i wedi gweld un o’r posteri hynny flwyddyn ynghynt, o leiaf byddwn wedi dweud wrth fy meddyg, 'Edrychwch, a oes posibilrwydd bod hwn arna’i? Rwy'n meddwl bod y canser ofarïaidd hwn arnaf.',” meddai Linda yn ei thystiolaeth i'r Pwyllgor.

Cafodd ei symptomau eu camgymryd am IBS (syndrom coluddyn llidus) a heintiau'r llwybr wrinol, sy’n amlygu symptomau tebyg i ganser yr ofari. Yn anffodus, mae'r camddiagnosis hwn yn gyffredin ar gyfer menywod. Cafodd ei gweld gan bum meddyg gwahanol yn ei meddygfa, ond sgwrs gyda ffrind arweiniodd at ei diagnosis yn y pen draw.

“Es i allan am swper gyda fy ffrind a'i gŵr, sy'n llawfeddyg. Eglurais fy symptomau iddo, a gofynnodd 3 neu 4 cwestiwn imi a gofyn a allai deimlo fy mol. Y diwrnod wedyn dywedodd “Rydw i'n mynd i ofyn iti ddod mewn” ac roedd yn gwybod y diwrnod hwnnw bod rhywbeth o'i le.”

Mae Linda wedi bod yn rhydd o ganser ers 13 mlynedd. Roedd llawdriniaeth i dynnu dwy goden fawr, un yn 22cm, a'r llall yn 17cm, yn llwyddiannus. Nawr, mae hi'n dweud ei stori pryd bynnag y gall, er mwyn helpu menywod eraill.

“Maen nhw'n galw'r canser hwn “y lladdwr tawel”, oherwydd erbyn i fenywod gael diagnosis, mae'n aml yn rhy hwyr. Felly, ar unrhyw gyfle, bydda i'n codi ymwybyddiaeth o'r symptomau ... ac yn hyrwyddo’r neges nad oes angen i gynifer o fenywod farw o ganser yr ofari, oherwydd mae yna symptomau y gellir eu hadnabod.”

Mae Menywod yn Gwybod Pan Mae Rhywbeth o'i Le

Mae'r profiadau a rannwyd gan Claire, Judith, Linda, a sawl un arall, yn adleisio'r dystiolaeth a dderbyniodd y Pwyllgor gan sefydliadau megis Gofal Canser Tenovus, Target Ovarian Cancer a Jo's Cancer Trust, ymhlith eraill.

“Mae'r Pwyllgor yn teimlo'n freintiedig o fod wedi clywed tystiolaethau hynod bwerus gan fenywod dewr fel Judith Rowlands, Claire O'Shea a Linda Drew,” meddai Russell George AS, Cadeirydd Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol y Senedd.

“Cafodd aelodau’r Pwyllgor eu taro gan eu penderfyniad i godi ymwybyddiaeth o ganserau gynaecolegol, a’u syfrdanu gan ddycnwch Judith i sicrhau bod ei stori’n cael ei chlywed yn ystod y dyddiau anoddaf. Drwy eu hadroddiadau dirdynnol mae’r holl fenywod a rannodd eu straeon gyda’r pwyllgor wedi dod â realiti’r amodau dinistriol hyn i’r amlwg.

“Yn gynnar yn ein hymchwiliad, roedd yn amlwg bod menywod yn teimlo nad yw eu pryderon iechyd yn cael eu cymryd o ddifrif. Mae eu symptomau'n aml yn cael eu diystyru neu eu bychanu ac mewn llawer o achosion fe'u gwneir i deimlo fel niwsans niwrotig. Nid ydym yn awgrymu bod pob menyw yn cael profiad gwael, ond ymddengys pan aiff pethau o chwith, eu bod yn mynd wirioneddol o chwith.

“Gall rhagfarn ar sail rhywedd ddylanwadu ar sut mae gweithwyr gofal iechyd proffesiynol yn canfod ac yn rhyngweithio â chleifion benywaidd. Gall stereoteipiau a syniadau rhagdybiedig am emosiynau menywod a’u gallu i oddef poen arwain at agweddau diystyriol. Yn y pen draw, mae menywod yn adnabod eu cyrff eu hunain. Maent yn gwybod pan fydd rhywbeth o'i le, a rhaid gwrando ar y pryderon hynny a gweithredu arnynt.

“Yn ein hadroddiad, rydym wedi cyflwyno 26 o argymhellion i Lywodraeth Cymru ar sut y gellir gwella gwasanaethau i fenywod sydd â chanserau gynaecolegol. Rhaid inni weld camau’n cael eu gweithredu ar unwaith fel na fydd yn rhaid i fenywod eraill fynd drwy’r hyn a wnaeth Claire, Judith, Linda, a sawl un arall.”

Ymwybyddiaeth yn Holl Bwysig

Mae’r straeon pwerus a glywyd yn ystod yr ymchwiliad hwn yn dangos fod codi ymwybyddiaeth yn holl bwysig er mwyn gwella cyfraddau goroesi ar gyfer pob canser gynaecolegol. Mae’r Pwyllgor yn galw ar Lywodraeth Cymru i ariannu ymgyrchoedd cyhoeddus rheolaidd a phellgyrhaeddol i godi proffil y symptomau ac annog menywod i siarad â’u meddygon yn brydlon. Dylai fod yn fwy hysbys hefyd nad ydi sgrinio serfigol yn gallu canfod mathau eraill o ganserau gynaecolegol.

Bydd hyn yn grymuso menywod nid yn unig i ofyn am gyngor ond i sicrhau bod eu lleisiau'n cael eu clywed gan mai nhw yn unig sy'n gallu adnabod eu cyrff mewn gwirionedd.

Dylai cymorth gwell i feddygon teulu fod yn flaenoriaeth hefyd. Fel y man galw cyntaf ar gyfer cymaint o anhwylderau, nid yw adnabod arwyddion a symptomau canser yn syml. Mae’r Pwyllgor am weld mwy o gyfleoedd addysg i feddygon teulu, i gadw i fyny â’r canllawiau diweddaraf, ac iddynt gael mwy o gymorth gan ofal eilaidd i gynorthwyo gydag asesu ac atgyfeirio cleifion sydd yn dod atyn nhw gyda symptomau posib canserau gynaecolegol.

Roedd y Pwyllgor hefyd yn pryderu ynghylch y diffyg adnoddau a data gweithlu sydd ar gael ar gyfer y gwahanol fathau o ganserau gynaecolegol. Dylid mynd i'r afael â hyn cyn gynted â phosibl, er mwyn deall yn well lle mae gwasanaethau'n brin a lle mae angen mwy o adnoddau.

Mae’r Pwyllgor wedi cyflwyno 26 o argymhellion ar gyfer Llywodraeth Cymru, yn seiliedig ar y dystiolaeth a ddaeth i law yn ystod yr ymchwiliad hwn. Caiff yr adroddiad bellach ei anfon at Lywodraeth Cymru ar gyfer ei ystyried. Bydd adroddiad y Pwyllgor ac ymateb y llywodraeth yn cael eu trafod gan y Senedd yn ystod Cyfarfod Llawn yn y Flwyddyn Newydd. 

 

 


Mwy am y stori hon

Ymchwiliad: Canserau gynaecolegol

Heb lais: Taith menywod drwy ganser gynaecolegol: Darllenwch yr adroddiad