Y Siambr

Y Siambr

Newidiadau mawr i'r Senedd yn cael eu cymeradwyo

Cyhoeddwyd 08/05/2024   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 08/05/2024   |   Amser darllen munudau

Heddiw (dydd Mercher 8 Mai), cymeradwyodd Aelodau o’r Senedd rai o'r diwygiadau mwyaf arwyddocaol i ddemocratiaeth yng Nghymru ers creu'r Senedd ym 1999. 

Gwnaeth Elin Jones AS, Llywydd y Senedd, y sylwadau a ganlyn ar basio Bil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau), "Wrth i ni nodi 25 mlynedd o ddatganoli yr wythnos hon, mae'r bleidlais heddiw yn cynrychioli dechrau'r bennod nesaf yn hanes democratiaeth Cymru.  

“Mae'r Senedd heddiw yn lle gwahanol iawn o’i chymharu â’r Cynulliad Cenedlaethol ym 1999. Nawr mae gennym senedd lawn gyda phwerau deddfu ac amrywio trethi, ond nid yw ein gallu i gynrychioli pobl Cymru a dwyn y Llywodraeth i gyfrif wedi tyfu ar yr un cyflymder. 

“Bydd y newidiadau a gefnogwyd heddiw gan fwyafrif clir o'r Aelodau yn sicrhau Senedd gryfach, fwy effeithiol ar gyfer y 21ain ganrif.” 

Mae Bil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) yn cynyddu maint y Senedd, yn newid y system bleidleisio ac yn symud i gylch etholiad pedair blynedd. Cafodd ei gyflwyno i'r Senedd am y tro cyntaf gan Lywodraeth Cymru ym mis Medi 2023. Yna cafodd y cynigion yn y Bil eu harchwilio'n fanwl gan bwyllgor trawsbleidiol.  

Ar ôl cael ei drafod a'i ddiwygio gan bob Aelod o'r Senedd mewn dwy sesiwn Cyfarfod Llawn, cafodd y Bil gymeradwyaeth derfynol gan Aelodau o'r Senedd heddiw.

Gan fod y gyfraith yn newid y ffordd y mae Aelodau'n cael eu hethol, roedd rhaid i 'uwchfwyafrif' o ddwy ran o dair o’r Aelodau bleidleisio drosti er mwyn cael ei phasio. O dan yr amgylchiadau hyn, mae gan y Llywydd a’r Dirprwy Lywydd yr hawl i bleidleisio; arweiniodd hyn at ganlyniad terfynol o 43 pleidlais o blaid, 16 pleidlais yn erbyn.  

Fis nesaf, bydd y Bil yn cael Cydsyniad Brenhinol, sef pan fydd y Brenin yn cytuno'n ffurfiol i wneud y Bil yn Ddeddf. 

Y newidiadau 

Y system bresennol 

Y cynigion 

60 Aelod i gyd - 40 yn cynrychioli etholaethau ac 20 yn cynrychioli rhanbarthau mwy. 

96 Aelod i gyd – 16 o etholaethau a 6 o Aelodau’n cynrychioli pob un ohonynt. 

Un bleidlais ar gyfer yr etholaeth, un bleidlais ar gyfer y rhestr ranbarthol. 

Un bleidlais ar gyfer yr etholaeth.  

Bydd pobl yn dewis ymgeisydd unigol yn y bwth pleidleisio yn y bleidlais etholaethol ac yn dewis plaid wleidyddol (neu ymgeisydd annibynnol) yn y bleidlais ranbarthol. 

Oni bai eu bod yn pleidleisio dros ymgeisydd annibynnol, bydd pobl yn dewis plaid wleidyddol i bleidleisio drosti, a bydd y cynrychiolwyr etholedig yn cael eu cynnwys ar restrau y bydd y pleidiau yn penderfynu arnynt. Bydd enw pob ymgeisydd i’w weld ar y papur pleidleisio.  

Bydd etholiadau’r Senedd yn cael eu cynnal bob 5 mlynedd. 

Bydd etholiadau’r Senedd yn cael eu cynnal bob 4 mlynedd. 

Nid oes angen i’r Aelodau/ymgeiswyr breswylio yng Nghymru. 

Rhaid i’r Aelodau/ymgeiswyr fod wedi’u cofrestru i bleidleisio yng Nghymru.