Mae'n bosibl y byddai colli mynediad at Farchnad Sengl Ewrop yn drychinebus i ddiwydiant bwyd a diod Cymru, yn ôl Pwyllgor Materion Allanol y Cynulliad

Cyhoeddwyd 10/12/2018   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 11/12/2018

​Gallai gadael yr Undeb Ewropeaidd, heb fargen sy'n sicrhau mynediad esmwyth i'r Farchnad Sengl fod yn drychinebus i'r sector bwyd a diod yng Nghymru, yn ôl Pwyllgor Materion Allanol y Cynulliad Cenedlaethol.

Fel rhan o'i waith ar sut y mae sector bwyd a diod Cymru yn paratoi ar gyfer Brexit, clywodd y Pwyllgor fod tua dwy ran o dair o allforion bwyd a diod Cymru yn mynd i'r Undeb Ewropeaidd ar hyn o bryd a bod cyfanswm gwerth yr allforion tua £335 miliwn yn 2016. Ar hyn o bryd mae allforion bwyd a diod i 'Weddill y Byd' yn cyfrif am oddeutu un rhan o dair o'r allforion.

O ran y diwydiant cig coch yng Nghymru, clywodd y Pwyllgor nad yw pobl Cymru ond yn bwyta 5 y cant o'r cig oen y mae'n ei gynhyrchu, â rhwng 55 a 60 y cant yn cael ei fwyta yng ngweddill y DU. Caiff y 35-40 y cant sy'n weddill ei allforio, â thros 92 y cant o'r allforion hynny yn mynd i'r Undeb Ewropeaidd. At hynny, caiff 15 y cant o gig eidion Cymru ei allforio, gyda 93 y cant o'r allforion yn mynd i weddill yr UE. Mae allforion cig oen Cymru yn werth tua £124 miliwn y flwyddyn, ac mae cig eidion Cymreig yn werth £61 miliwn y flwyddyn.

Dywedodd David Rees AC, Cadeirydd y Pwyllgor:

"Mae'r sector bwyd a diod yng Nghymru yn hollbwysig i'n heconomi, o ran yr incwm a gynhyrchir a'r swyddi a gaiff eu cynnal gan y sector. Rydym yn bryderus iawn ynghylch y goblygiadau posibl i Gymru o golli mynediad i'r farchnad o ran ein cynhyrchwyr bwyd a diod, yn enwedig ffermwyr yn y diwydiant cig coch, sy'n ddibynnol ar allforion i'r UE am swm sylweddol o'u hincwm allforio. Clywsom, hefyd, er bod ymdrechion ar waith i ehangu i farchnadoedd newydd a rhai sy'n dod i'r amlwg, bydd ffactorau megis cyfnod silff byr a thymhorol cynhyrchion bwyd fel cig eidion a chig oen yn golygu na fydd y marchnadoedd newydd hyn yn dwyn ffrwyth am flynyddoedd i ddod."

Clywodd y Pwyllgor hefyd am raglen enwau bwydydd gwarchodedig yr UE, sy'n gwarchod bwydydd neu ddiodydd rhanbarthol a thraddodiadol cofrestredig ledled yr UE, yn gyfreithiol, rhag cael eu hefelychu. Ar hyn o bryd mae 15 o gynhyrchion Cymreig wedi'u cofrestru o dan y cynllun, gan gynnwys cig oen Cymreig, halen môr Ynys Môn a thatws Sir Benfro.

Dywedodd David Rees AC:

"Mae'r statws gwarchodedig sydd ar gael ar hyn o bryd i gynhyrchion bwyd a diod Cymru yn hanfodol i lwyddiant parhaus y cynhyrchion hynny a llwyddiant 'brand Cymru' yn gyffredinol. Dyna pam rydym wedi galw ar Lywodraeth Cymru i nodi manylion ei thrafodaethau â Llywodraeth y DU ynghylch trefniadau ar gyfer statws gwarchodedig ar ôl Brexit. "

Gwnaiff y Pwyllgor dri argymhelliad yn ei adroddiad, i'w hystyried gan Lywodraeth Cymru, gan gynnwys:

  • bod gwaith Llywodraeth Cymru ar strategaeth bwyd a diod a chynllun gweithredu newydd yn rhoi ystyriaeth i'r gwaith ymchwil sydd ar y gweill i feincnodi'r sector. At hynny, dylai unrhyw strategaeth newydd ar gyfer y sector ar ôl Brexit osod amcanion clir ac uchelgeisiol, gan gynnwys defnyddio targedau priodol, er mwyn gwella mynediad Cymru at farchnadoedd newydd yng ngweddill y byd i allforio cynhyrchion bwyd a diod o Gymru.;

  • bod Llywodraeth Cymru, yn ei hymateb i'r adroddiad hwn, yn amlinellu pa drafodaethau y mae wedi eu cael â Llywodraeth y DU ynghylch creu cynllun ar draws y DU ar ôl Brexit, gan gynnwys p'un a yw wedi codi pryderon ai peidio ynghylch y cyfnod cyfyngedig o amser i ymgynghoreion gyfrannu at yr ymgynghoriad; a

  • bod Llywodraeth Cymru, yn ei hymateb i'r adroddiad hwn, yn amlinellu manylion y gwaith sydd ar y gweill i helpu busnesau i liniaru effeithiau Brexit 'heb fargen' ar ddiogelwch a pharhad trefniadau cyflenwi bwyd yng Nghymru.

 


 

Darllen yr adroddiad llawn:

Adrodd ar barodrwydd y sector bwyd a diod yng Nghymru (PDF, 229 KB)