Janet Finch Saunders AS

Janet Finch Saunders AS

Gwahardd defnyddio anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau yng Nghymru: Datganiad gan Gadeirydd Pwyllgor Deisebau'r Senedd

Cyhoeddwyd 07/09/2020   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 17/12/2020   |   Amser darllen munudau

​O 1 Rhagfyr 2020, ni fydd syrcasau teithiol yn cael defnyddio anifeiliaid gwyllt mewn perfformiadau mwyach o dan Ddeddf Anifeiliaid Gwyllt a Syrcasau (Cymru), a ddaeth i rym ddydd Llun 7 Medi.

Mae Janet Finch-Saunders AS, Cadeirydd Pwyllgor Deisebau'r Senedd, wedi cyhoeddi'r datganiad a ganlyn:

"Dyma benllanw ymgyrch hir a phenderfynol gan lawer iawn o bobl yng Nghymru ac mae'r Pwyllgor hwn yn falch o weld eu hymdrechion yn cael eu cydnabod heddiw.

"Fel rhan o'r ymgyrch honno, cyflwynwyd deiseb yn galw am waharddiad a gafodd ei llofnodi gan fwy na 6,000 o bobl. Tynnodd y Pwyllgor sylw Llywodraeth Cymru at y ddeiseb ac fe gyflwynodd y Llywodraeth ddeddfwriaeth i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ar y pryd.

"Mae hyn yn dangos yr effaith y gall democratiaeth a system ddeisebau'r Senedd ei chael wrth dynnu sylw at faterion pwysig ac arwain at newid gwirioneddol.

"Rwy'n llongyfarch y deisebwyr a'u cefnogwyr am eu hymgyrch ddiflino."

Trafododd y Pwyllgor Deisebau y ddeiseb am y tro cyntaf ar 23 Ionawr 2018.

Trafodwyd y ddeiseb gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ar y pryd ar 7 Mawrth 2018.

Cytunodd y Pwyllgor i gau'r ddeiseb ar 25 Medi 2018 ar ôl i Lywodraeth Cymru ymrywmo i gyflwyno deddfwriaeth i wahardd defnyddio anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau yn ystod y 12 mis nesaf.

Cyflwynodd Llywodraeth Cymru y Bil Anifeiliaid Gwyllt a Syrcasau (Cymru) ar 8 Gorffennaf 2019.

Derbyniwyd y Bil gan y Senedd ar 15 Gorffennaf 2020.

Mae rhagor o wybodaeth am y ddeiseb ar gael yma.

Mae rhagor o wybodaeth am system ddeisebau'r Senedd ar gael yma.

Mae rhagor o wybodaeth am y Bil Anifeiliaid Gwyllt a Syrcasau (Cymru) ar gael yma.