E-Ddeisebau – yn ei gwneud yn haws i chi gael dweud eich dweud

Cyhoeddwyd 13/09/2010   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

E-Ddeisebau – yn ei gwneud yn haws i chi gael dweud eich dweud

13 Medi 2010

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru’n ail-lansio ei system e-ddeisebau, yn ogystal a fideo newydd sy’n egluro sut y gall bobl Cymru ddweud eu dweud ar faterion sy’n effethio arnynt.

Lluniwyd e-ddeisebau fel ffordd gyflym a hawdd i bobl gael cefnogaeth ac i dorri i lawr ar beth o’r gwaith sy’n gysylltiedig a chyflwyno deisebau papur traddodiadol. Gellir rhannu a dosbarthu e-ddeisebau’n gyflym hefyd drwy’r rhyngrwyd i gyrraedd llawer mwy o bobl dros ardal ehangach.

Gellir cychwyn a llofnodi e-ddeisebau drwy wefan Cynulliad Cenedlaethol Cymru www.cynulliadcymru.org. Bydd yr holl ddeisebau, y rhai ysgrifenedig a’r rhai ar-lein, wedyn yn mynd drwy’r broses o gael eu hasesu i weld a ydynt yn gymwys cyn a caiff y rhai perthnasol eu hystyried gan Bwyllgor Deisebau’r Cynulliad.

Mae’r materion a ystyriwyd eisoes gan y Pwyllgor yn cynnwys gwahardd bagiau siopa untro, achub tafarn yng Nghaerdydd a sefydlu rhwydwaith beicio Cymru gyfan.

Dywedodd Christine Chapman AC, Cadeirydd y Pwyllgor Deisebau: “Mae pawb yn credu’n angerddol mewn rhywbeth, ac oherwydd ein bod ni i gyd yn wahanol, rydym yn credu mewn gwahanol bethau ac yn eu cefnogi.


“Weithiau, gall fod yn anodd i bobl sicrhau bod eu lleisiau’n cael eu clywed, a dyna’n union pam y sefydlwyd y Pwyllgor Deisebau, sef i roi ffordd i bobl gyflwyno eu syniadau er mwyn sicrhau newid gwirioneddol yng Nghymru.

“Credwn fod e-ddeisebau’n gwneud y broses o amlygu materion i’r Cynulliad yn haws, ac y byddant yn dod yn rhan gynyddol bwysig o ddemocratiaeth yng Nghymru.

Dywedodd Peter Black AC, Comisiynydd y Cynulliad a’r Dinesydd: “Un o amcanion allweddol y Cynulliad Cenedlaethol yw ei gwneud yn haws i bobl Cymru ymgysylltu a’r broses ddemocrataidd.

“Mae e-ddeisebau’n rhan fawr o’n strategaeth e-ddemocratiaeth, a luniwyd i ymgysylltu a phobl ar-lein a thrwy ddulliau amlgyfrwng.

“Gan fod yr etholiadau a’r refferenda ar fin cael eu cynnal, mae’n hanfodol bod bobl yn gallu cael gafael ar wybodaeth am sut y mae’r Cynulliad yn gweithio ar eu rhan a sut y gallant gymryd rhan.”