Digwyddiad gwibrwydweithio i hysbysu Aelodau Cynulliad am faterion iechyd yng Nghymru
14 Gorffennaf 2011
Cymerodd Aelodau Cynulliad a staff ran mewn digwyddiad gwibrwydweithio gyda rhanddeiliaid o’r sector iechyd yn y Pierhead ddydd Mercher 13 Gorffennaf.
Cafodd y sefydliadau a ddaeth i’r digwyddiad dri munud yr un i dynnu sylw’r gynulleidfa at faterion allweddol y mae’r sector iechyd yn eu hwynebu. Agorwyd y digwyddiad gan Mark Drakeford AC, Cadeirydd Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol y Cynulliad. Nododd ei bod yn bwysig cadw deialog agored a phob sefydliad, gan gynnwys y sefydliadau hynny nad oeddent yn bresennol yn y digwyddiad, er mwyn sicrhau bod gwaith y Cynulliad yn cael ei lywio gan arbenigwyr yn y maes. Siaradodd Alex McMillian ar ran y sefydliadau hynny, a chroesawodd y cyfle i gwrdd ag Aelodau i drafod materion sydd o bwys i sefydliadau sy’n gweithio ym maes iechyd.
Roedd themau allweddol y digwyddiad yn cynnwys yr angen i ddarparu gwasanaethau gwell, a hynny o fewn hinsawdd ariannol heriol, a’r angen i gydweithio mewn modd integredig ar draws sectorau iechyd a chymdeithasol.
Nododd cyfranogwyr eu bod yn frwdfrydig i barhau a’r ddeialog hon a’i hehangu yn ystod y Cynulliad hwn.