Comisiynwyr yn ymgymryd â chyfrifoldebau portffolio i lywio agenda strategol Comisiwn newydd y Cynulliad
20 Mehefin 2011
Cyfarfu Comisiwn Cynulliad Cenedlaethol Cymru heddiw i benderfynu ar bortffolio cyfrifoldeb pob Comisiynydd unigol.
Mae’r meysydd portffolio yn cynnwys cyfathrebu a’r iaith Gymraeg, y gyllideb a llywodraethu, TGCh ac e-ddemocratiaeth, ac addysg a gwasanaethau cyswllt cyntaf y Cynulliad.
Caiff y portffolios eu rhannu rhwng y pedwar Comisiynydd, sef Angela Burns AC (Ceidwadwyr Cymreig), Peter Black AC (Democratiaid Rhyddfrydol Cymru), Sandy Mewies AC (Llafur Cymru) a Rhodri Glyn Thomas AC (Plaid Cymru). Mae’r portffolios wedi’u rhannu fel a ganlyn:
Portffolio |
Comisiynydd |
---|---|
Llywydd a Chadeirydd y Comisiwn, cyfrifoldeb dros y Gwasanaethau Cyfreithiol. |
|
Y gyllideb, llywodraethu, gan gynnwys aelodaeth y Pwyllgor Archwilio, a chysylltiadau â’r Bwrdd Taliadau. Gwella gwasanaethau i Aelodau, cymorth cyflogaeth a datblygu proffesiynol ar gyfer Aelodau a’u staff. |
|
TGCh, darlledu ac e-ddemocratiaeth, ystâd y Cynulliad, cyfleusterau a chynaliadwyedd. Y Comisiwn fel cyflogwr staff y Cynulliad. |
|
Gwasanaethau addysg, cyswllt cyntaf, arlwyo a diogelwch. Swyddogaethau statudol y Comisiwn mewn perthynas â chydraddoldeb a rhyddid gwybodaeth. |
|
Ymgysylltu a chyfathrebu â’r dinesydd, allgymorth cenedlaethol a rhyngwladol. Swyddogaethau a pholisi’r Comisiwn mewn perthynas â’r iaith Gymraeg. |
Er nad yw David Melding AC, y Dirprwy Lywydd, yn aelod ffurfiol o’r Comisiwn, cytunwyd y bydd yn cefnogi’r Comisiwn drwy ganolbwyntio ar y Pierhead fel canolfan ar gyfer datblygu a thrafod yn y Cynulliad, ac ar gysylltiadau â Chanolfan Llywodraethiant Cymru a sefydliadau eraill sy’n berthnasol i’r rôl hon.
“Roedd y Comisiwn o’r farn bod y meysydd portffolio hyn yn cynrychioli’r ffordd orau o fynd ar drywydd nodau strategol y Pedwerydd Cynulliad,” meddai Rosemary Butler AC, y Llywydd.
“Hoffwn gymryd y cyfle hwn i ddiolch i’r pedwar Comisiynydd am eu cefnogaeth a’u brwdfrydedd ar ddechrau Cynulliad sydd â phwerau deddfu ehangach.
“Credaf fod gennym dîm cryf a fydd yn sicrhau bod y Cynulliad yn tyfu fel sefydliad sy’n uchel ei barch yng ngolwg pawb yng Nghymru.”