Comisiwn y Cynulliad yn cynnig ffordd newydd ar gyfer gwasanaethau dwyieithog

Cyhoeddwyd 03/08/2011   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Comisiwn y Cynulliad yn cynnig ffordd newydd ar gyfer gwasanaethau dwyieithog  

3 Awst 2011

Heddiw (3 Awst 2011), mae Comisiwn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Comisiwn y Cynulliad) yn lansio ymgynghoriad cyhoeddus ar fframwaith newydd i reoli ei ddarpariaeth o wasanaethau dwyieithog.

Byddai Bil (Drafft) Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Ieithoedd Swyddogol) yn cynnwys darpariaethau ynghylch defnyddio’r Gymraeg a’r Saesneg yn ystod trafodion y Cynulliad Cenedlaethol, ac wrth gyflawni swyddogaethau Comisiwn y Cynulliad.

Bydd y Bil yn gosod dyletswydd ar Gomisiwn y Cynulliad i gyflwyno cynllun gwasanaethau dwyieithog fydd yn nodi’r camau y mae’n bwriadu eu cymryd i gydymffurfio a’i ddyletswydd, fel y’i hamlinellwyd yn Neddf Llywodraeth Cymru 2006. Roedd y gwasanaethau hynny wedi’u modelu’n flaenorol ar gynnwys Deddf yr Iaith Gymraeg 1993, sydd bellach wedi’i disodli gan Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011. Yn unol ag egwyddorion cyfansoddiadol sylfaenol, nid yw’r Cynulliad na’r Comisiwn yn ddarostyngedig i drefniadau’r Mesur, felly penderfynodd Comisiwn y Cynulliad i ymchwilio i fframwaith deddfwriaethol newydd ynghylch ei wasanaethau dwyieithog.

Yn ei gyfarfod ar 14 Gorffennaf, cytunodd Comisiwn y Cynulliad i gynnig deddfwriaeth newydd a fyddai’n gosod dyletswyddau’r Cynulliad Cenedlaethol a’r Comisiwn mewn perthynas a darparu gwasanaethau dwyieithog ar sail statudol gadarn.

Dywedodd Rosemary Butler AC, Llywydd y Cynulliad: “Mae gan y Comisiynwyr newydd a minnau ymrwymiad i ddarparu gwasanaethau dwyieithog sy’n esiampl i eraill ar gyfer y Pedwerydd Cynulliad. Rwyf yn hyderus y bydd ein cynlluniau yn cyflawni hynny. Hwn fyddai’r Bil cyntaf a gynigwyd gan y Comisiwn ers y bleidlais gadarnhaol a gafwyd yn y refferendwm ym mis Mawrth. Hoffwn annog cymaint o bobl a phosibl i ddweud eu dweud yn ystod y cyfnod ymgynghori fel y gallant ein helpu i lunio ein cynigion.”

Dywedodd Rhodri Glyn Thomas AC, y Comisiynydd sydd a chyfrifoldeb dros yr iaith Gymraeg: “Mae’r ddeddfwriaeth arfaethedig yn cynnig trefniadau cadarn ar gyfer rheoli gwasanaethau dwyieithog y Cynulliad. Mae’r cynllun drafft yn cadarnhau ein hymrwymiad i ddatblygu gwasanaethau ac i arloesi yn y maes hwn, er mwyn sicrhau bod gwybodaeth am y Cynulliad Cenedlaethol a’i waith ar gael i bawb”.

Bydd y cyfnod ymgynghori yn parhau drwy’r haf, a disgwylir i’r Bil drafft a’r cynllun fod yn barod i’w hystyried gan y Cynulliad Cenedlaethol o gwmpas diwedd y flwyddyn.

Gellir gweld y Bil Drafft a’r Cynllun Gwasanaethau Dwyieithog Drafft yma.

Os hoffech gyflwyno tystiolaeth, anfonwch gopi electronig at GwasanaethauDwyieithog@cymru.gov.uk gan ddefnyddio’r teitl canlynol yn eich neges e-bost: Ymgynghoriad—Gwasanaethau Dwyieithog.

 Fel arall, gallwch ysgrifennu at: Rheolwr y Cynllun Gwasanaethau Dwyieithog, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Bae Caerdydd, CF99 1NA.

 Dylai tystiolaeth ddod i law erbyn 14 Hydref 2011. Efallai na fydd modd inni ystyried ymatebion a dderbynnir ar ol y dyddiad hwn. Bydd sylwadau a gwelliannau yn cael eu hystyried gan Gomisiwn y Cynulliad yn nhymor yr Hydref cyn cyflwyno’r Bil ar gyfer archwilio.