Nid yw'r gweithlu addysg wedi'i baratoi'n ddigonol ar gyfer gweithredu'r cwricwlwm newydd, a dylai Llywodraeth Cymru weithredu ar frys i sicrhau bod athrawon yn barod ar gyfer y newidiadau sydd i ddod, yn ôl un o bwyllgorau Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Mae adroddiad newydd gan y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar ei ymchwiliad i Addysg a Dysgu Proffesiynol Athrawon yn gwneud cyfres o argymhellion i fynd i'r afael â materion a godwyd mewn perthynas â datblygiad proffesiynol athrawon, gan gynnwys gwella'r ddarpariaeth hyfforddiant gyfredol ledled Cymru ac achrediad ffurfiol ar gyfer rhaglenni datblygiad proffesiynol athrawon.
Yn ystod ei ymchwiliad, clywodd y Pwyllgor nad oedd nifer o athrawon yn gwbl ymwybodol o'r newidiadau parhaus a'r rhai sydd i ddod i'r cwricwlwm a dim ond lleiafrif oedd yn teimlo yn barod ar gyfer y newidiadau hyn.
Hefyd, derbyniodd y Pwyllgor dystiolaeth gan ystod o sefydliadau a oedd yn cefnogi creu achrediad cydnabyddedig ar gyfer datblygiad proffesiynol i sicrhau bod athrawon yn gwybod eu bod yn derbyn dysgu o ansawdd da sy'n berthnasol.
Mae argymhellion eraill yr adroddiad yn cynnwys:
Ymgymryd â gwaith i sefydlu'r lefel y mae llwyth gwaith athrawon yn dod yn rhwystr i recriwtio;
Ystyried cymhlethdod a hygyrchedd safonau proffesiynol i sicrhau bod gan bawb ar draws y proffesiwn addysgu fynediad at y safonau ar ffurf sydd orau iddynt, ac mewn ffordd sy'n gwneud defnydd o'r safonau'n syml i'w hymgorffori yn eu harferion gwaith;
Diwygio'r safonau proffesiynol newydd i nodi'n gliriach y safonau craidd a ddisgwylir gan athro er mwyn cyflawni ei rôl yn effeithiol;
Ymestyn cylch gorchwyl y Cyngor Gweithlu Addysg i gynnwys cyfrifoldeb am safonau proffesiynol yng Nghymru.
Meddai Cadeirydd y Pwyllgor Lynne Neagle AC:
"Mae datblygiad proffesiynol parhaus o ansawdd go iawn yn hanfodol er mwyn cyflawni gofynion newidiol y proffesiwn addysgu.
"Mae camau diweddar gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, gan gynnwys lansio'r safonau proffesiynol newydd ar gyfer addysgu ac arweinyddiaeth a gohirio cyflwyno'r cwricwlwm newydd tan 2022 i'w croesawu'n fras, ond mae angen gwneud mwy i fynd i'r afael â'r materion a amlygwyd yn ystod ein hymchwiliad.
"Mae'r dystiolaeth a gawsom yn awgrymu nad yw'r gweithlu presennol yn teimlo'n barod ar gyfer gweithredu'r cwricwlwm newydd ac felly mae gofyn am weithredu brys gan Lywodraeth Cymru i unioni hyn. Credwn y bydd ein hargymhellion yn helpu i sicrhau bod athrawon mewn sefyllfa well i ymdrin â'r heriau sydd ar y gorwel.
"Yn bwysicaf oll mae'r angen i sicrhau bod ansawdd yr addysgu yng Nghymru o'r radd flaenaf, ac yn parhau i fod felly yn y dyfodol. Felly, mae'n rhaid inni sicrhau ein bod yn gwneud popeth a allwn i ddarparu'r offer i'r proffesiwn y mae eu hangen arno i sicrhau ansawdd yr addysgu."
Darllen yr adroddiad llawn:
Adroddiad ar yr ymchwiliad i Addysg a Dysgu Proffesiynol Athrawon (PDF, 1 MB)