Anfonwch eich lluniau o dyllau yn y ffordd ar gyfer cystadleuaeth ffotograffiaeth pwyllgor y Cynulliad

Cyhoeddwyd 14/06/2018   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 26/07/2018

Mae cystadleuaeth ffotograffiaeth ar ffyrdd Cymru wedi'i lansio gan un o bwyllgorau'r Cynulliad Cenedlaethol.

Mae Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau'n gofyn i bobl anfon delweddau fel rhan o'i ymchwiliad i gyflwr ffyrdd yng Nghymru.

Bydd y cynigion sy'n cyrraedd y rhestr fer yn rhan o arddangosfa yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru a bydd y ddelwedd fuddugol hefyd yn ymddangos ar glawr adroddiad y Pwyllgor.

Dywedodd Russell George AC, Cadeirydd Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau, “Mae rhai ffyrdd prydferth yng Nghymru, ffyrdd prysur a ffyrdd eithaf ofnadwy hefyd”.

“Rydym yn chwilio am luniau sy'n crynhoi barn pobl am rwydwaith ffyrdd Cymru.

“Felly, p'un ai'n lluniau o dyllau yn y ffyrdd, yn olygfeydd o fylchau'r cymoedd neu'n lluniau sydyn o strydoedd trefol, rydym am eu trafod fel rhan o'n hymchwiliad wrth i ni greu delwedd fanwl o gyflwr priffyrdd a chilffyrdd Cymru.”

Ceir rhagor o wybodaeth am yr ymchwiliad a'r gystadleuaeth ffotograffiaeth ar dudalennau gwe'r Pwyllgor.

Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno lluniau yw dydd Gwener 13 Gorffennaf.