Adolygu gwasanaethau dwyieithog y Cynulliad

Cyhoeddwyd 08/02/2010   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Adolygu gwasanaethau dwyieithog y Cynulliad

Mae panel annibynnol wedi’i sefydlu i edrych ar y gwasanaethau dwyieithog a ddarperir gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

Mae Panel yr Adolygiad Annibynnol o Wasanaethau Dwyieithog, sy’n cynnwys pedwar aelod, yn adolygu’r ddarpariaeth ddwyieithog bresennol gan Gomisiwn y Cynulliad ac yn gofyn am farn unrhyw un sydd â diddordeb.

Dywedodd Arwel Elis Owen, Cadeirydd y Panel: “Mae barn holl gwsmeriaid y Cynulliad yn bwysig. Felly, rydym yn croesawu sylwadau gan bob rhanddeiliad a’r gymuned yn gyffredinol.”

Mae’r Panel yn edrych ar y gwasanaethau hynny y mae Comisiwn y Cynulliad yn eu darparu i Aelodau a’r cyhoedd ehangach sy’n:

- ymweld â’r Senedd;

- defnyddio gwefan y Cynulliad;

- gohebu â’r Cynulliad, er enghraifft drwy ymateb i ymchwiliadau gan bwyllgorau;

- ffonio’r Cynulliad;

- darllen cyhoeddiadau’r Cynulliad, gan gynnwys deddfwriaeth

- neu sydd fel arall yn dod i gysylltiad â’r Cynulliad.

Mae’r adolygiad hwn yn ymwneud â gwasanaethau’r Cynulliad a’i Gomisiwn yn unig.

Gall unrhyw un sydd am fynegi barn ysgrifennu i Banel yr Adolygiad Annibynnol o Wasanaethau Dwyieithog, Ty Hywel, Bae Caerdydd, Caerdydd, CF99, 1NA

Neu anfonwch e-bost i panel@cymru.gsi.gov.uk

Gall pobl hefyd gyflwyno eu sylwadau ar gyfrifon y Cynulliad ar:

  

Proffil o’r aelodau:

Mae gan Arwel Ellis Owen brofiad helaeth o’r byd cyfathrebu fel cyfarwyddwr a sylfaenydd y cwmni cyfathrebu, Cambrensis. Ef hefyd yw Cadeirydd Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru ac Is-lywydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Yn fwyaf diweddar, fe’i penodwyd yn Gadeirydd Cyngor Gofal Cymru.

Sefydlodd Susan Balsom ei chwmni cysylltiadau cyhoeddus, dylunio a chyhoeddi dwyieithog ei hun, FBA yn Aberystwyth ym 1989. Mae Mrs Balsom, yn gyn Gymraes y flwyddyn, wedi gwasanaethu ar fwrdd Awdurdod Datblygu Cymru, Cyllid Cymru ac fel Is-gadeirydd Cyngor Darlledu’r BBC ar gyfer Cymru. Tan yn ddiweddar, hi oedd Cadeirydd Ymddiriedolaeth Tywysog Cymru ac mae wedi cynrychioli Cymru ar Fwrdd Cynnwys OFCOM, y rheoleiddiwr telathrebu a darlledu yn y DU, ers 2003. Eleni, fe’i penodwyd yn Llysgennad ar gyfer amrywiaeth mewn penodiadau cyhoeddus gan swyddfa’r Cabinet.

Ymgynghorwr manwerthu annibynnol a rheolwr gyfarwyddwr Gorsedd Cyf, cwmni eiddo masnachol yw Geraint Evans. Cyn hynny, bu’n rheolwr gyfarwyddwr ar siop fanwerthu Dan Evans (Barry) Ltd. Bu hefyd yn gyfarwyddwr anweithredol ar Associated Independent Store Ltd, y grwp mwyaf yn y DU nad yw’n ymwneud â phrynu bwyd.

Ar hyn o bryd, yr Athro Colin Baker yw Dirprwy Is-ganghellor Prifysgol Bangor ac mae hefyd yn Athro Addysg yno. Cyn hynny, cafodd yrfa hir fel darlithydd prifysgol ym maes addysg gyda llawer o gyhoeddiadau ar ddwyieithrwydd. Bu hefyd yn aelod o gyngor Bwrdd yr Iaith Gymraeg am ddeng mlynedd.

Cylch gorchwyl y Panel yw:

1. Bydd yr adolygwyr yn gwneud y canlynol:

a) ystyried sut y caiff yr holl wasanaethau dwyieithog presennol eu darparu gan Gomisiwn y Cynulliad, gan gynnwys datblygiadau mewn gwasanaethau dwyieithog ers sefydlu’r Comisiwn yn 2007, a’r cynigion a nodwyd yn natganiad ysgrifenedig Comisiwn y Cynulliad ar 30 Medi 2009.

b) ystyried barn ein prif gwsmeriaid am ein gwasanaethau dwyieithog ar hyn o bryd ac yn y dyfodol;

c) ystyried yr angen i sicrhau gwerth am arian, gan fanteisio ar arferion rhyngwladol gorau, i wneud argymhellion i'w hystyried gan Gomisiwn y Cynulliad ar ddarparu gwasanaethau dwyieithog y Cynulliad yn y dyfodol, gan gynnwys:

· cynnig opsiynau ar gyfer diffinio a chyflawni uchelgais y Cynulliad i fod yn “sefydliad gwirioneddol ddwyieithog";

· sefydlu egwyddorion a ddylai fod yn sail i’r agwedd at wasanaethau dwyieithog;

· ystyried pob math o wasanaeth, gan gynnwys er enghraifft, cyfryngau newydd a deunydd archif.

d) argymell ffordd ymlaen i’r Pedwerydd Cynulliad a thu hwnt (bydd cyfnod y Cynllun Iaith Presennol wedi dod i ben erbyn hynny).