AC yn cael caniatâd i gyflwyno Mesur arfaethedig

Cyhoeddwyd 07/02/2008   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

AC yn cael caniatâd i gyflwyno Mesur arfaethedig

Mae Dai Lloyd AC wedi cael caniatâd y Cynulliad i gyflwyno Mesur arfaethedig. Enillodd y Dr Lloyd y balot ym mis Rhagfyr. Roedd y balot yn ei alluogi fel Aelod Cynulliad nad yw’n aelod o’r Llywodraeth i gyflwyno Mesur Cynulliad arfaethedig. Mae ganddo gyfnod o chwe mis i ddrafftio a chyflwyno’r Mesur arfaethedig. Bydd y Mesur arfaethedig yn ceisio rhoi dyletswydd ar awdurdodau lleol i ystyried yr effaith y gallai gwerthu meysydd chwarae ei chael ar y cymunedau o’u hamgylch cyn iddynt eu gwerthu.

Darn o ddeddfwriaeth a wneir gan y Cynulliad yw Mesur. Mae iddo effaith debyg i Ddeddf Seneddol. Gall y Cynulliad basio Mesurau ar unrhyw ‘fater’ a restrir yn Atodlen 5 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 sydd ar hyn o bryd yn cynnwys meysydd megis addysg a hyfforddiant, iechyd a llywodraeth leol.