Y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd - gwaith ar gyfer tymor yr Hydref 2014

Cyhoeddwyd 14/11/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/11/2014

Bydd y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd yn brysur y tymor hwn gyda nifer o ymchwiliadau a gwaith craffu ar ddeddfwriaeth arfaethedig ar y gweill. Dyma gipolwg ar waith y Pwyllgor ar gyfer tymor yr Hydref.

Un o’r tasgau y bydd pwyllgorau’r Cynulliad yn eu hwynebu bob hydref yw craffu ar gyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer y flwyddyn ariannol sy’n dechrau yn y mis Ebrill canlynol. Mae’r Pwyllgor wedi cynnal sesiwn gyda’r Gweinidog Cyfoeth Naturiol a’r Dirprwy Weinidog Ffermio a Bwyd. Bydd yn cyhoeddi ei farn, ar ffurf llythyr at y Pwyllgor Cyllid, ar 6 Tachwedd.

Ar hyn o bryd mae’r Pwyllgor yn paratoi i gyflwyno adroddiad ar ei ymchwiliad i Ailgylchu yng Nghymru. Diben yr ymchwiliad hwn oedd i edrych yn fanwl ar arferion a threfniadau ailgylchu gwastraff tai presennol awdurdodau lleol, gan gynnwys y wybodaeth sydd ar gael i bobl a sut y mae modd gwella cyfraddau ailgylchu. Roedd yn cynnwys pob deunydd gwastraff, gan gynnwys bwyd a gwastraff gardd.

Cynhaliwyd ymgynghoriad cyhoeddus fel rhan o’r ymchwiliad, i gasglu tystiolaeth rhwng 9 Mai 2014 a 10 Mehefin 2014, a chafwyd ymateb gwych gan bobl o bob oed a phob ardal yng Nghymru.

Diolch i bawb a lenwodd holiaduron ac arolygon ar-lein, a rannodd luniau o ailgylchu yn eu hardaloedd, a drydarodd eu barn ar ailgylchu yng Nghymru neu a ymatebodd mewn nifer o ffyrdd eraill. Mae eich mewnbwn a’ch cyfraniad i waith y Pwyllgor mor bwysig.

I gadw golwg ar y datblygiadau diweddaraf o ran yr ymchwiliad hwn edrychwch ar Storify yr Ymchwiliad i Ailgylchu. Gobeithia’r Pwyllgor gyhoeddi ei adroddiad ar yr ymchwiliad cyn y Nadolig.

Gallwch hefyd edrych ar recordiadau YouTube ar gyfer yr Ymchwiliad.

[youtube https://www.youtube.com/watch?v=videoseries?list=PLAiwHW5TKfkEAN4RihQVDpqAsjEWCQ6kV]

 

Y tymor hwn, mae’r Pwyllgor yn ysgwyddo gwaith mawr o ran deddfwriaeth, gyda dau Fil i’w hystyried - Bil Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol a’r Bil Cynllunio (Cymru).

Mae’r Pwyllgor yn dod at ddiwedd y cyfnod craffu cyntaf ar y Bil Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru). Diben y Bil yw i roi datblygu cynaliadwy wrth wraidd y llywodraeth a chyrff cyhoeddus, gyda’r nod o sicrhau bod anghenion y presennol yn cael eu diwallu, heb beryglu anghenion cenedlaethau’r dyfodol.

Mae’n gosod chwe nod cenedlaethol ar gyfer gwella llesiant pobl yng Nghymru, drwy fynd i’r afael â heriau drwy’r cenedlaethau, fel newid hinsawdd, tlodi, ac anghydraddoldebau iechyd.

Mae’r Pwyllgor wedi casglu tystiolaeth ar y Bil hwn, ar ôl clywed gan amrywiaeth o randdeiliaid a chan Carl Sargeant AC, y Gweinidog Cyfoeth Naturiol. Mae’r Pwyllgor ar ganol y broses o ddrafftio adroddiad ar ei ystyriaeth o’r Bil yng Nghyfnod 1 ar hyn o bryd. Ceir y wybodaeth ddiweddaraf ar wefan y Pwyllgor.

Darllenwch ragor am y Bil Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru)

Yn ddiweddar, dechreuodd y Pwyllgor ystyried egwyddorion cyffredinol (a elwir hefyd yn graffu Cyfnod 1) y Bil Cynllunio (Cymru). Cyflwynwyd y Bil Llywodraeth hwn gan Carl Sargeant AC, y Gweinidog Cyfoeth Naturiol, yn dilyn gwaith gan Lywodraeth Cymru ar sut y gellir gwella prosesau cynllunio yng Nghymru.

Mae’r Pwyllgor bellach wrthi’n ystyried y Bil, i asesu a ddylai ddod yn gyfraith, ac i sicrhau ei fod yn cyrraedd y safonau uchaf os daw’n gyfraith. Dechreuodd yr ymgynghoriad ar y Bil hwn ar 10 Hydref, a bydd angen i bobl a sefydliadau sydd â diddordeb gyflwyno eu hymatebion erbyn 7 Tachwedd.

Noder nad yw’r Bil hwn yn ymdrin ag unrhyw achosion cynllunio unigol, neu ddulliau gweithredu o ran mathau penodol o gynllunio, ond â’r prosesau dan sylw.

Yn dilyn yr ymgynghoriad hwn bydd y Pwyllgor yn gwahodd unigolion a sefydliadau i roi tystiolaeth yn ystod cyfarfodydd y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd, cyn llunio adroddiad a gwneud unrhyw argymhellion y mae’n dymuno eu gwneud er mwyn gwella’r Bil.

Os hoffech rannu eich barn ar y prosesau y’u dilynir wrth wneud penderfyniadau cynllunio, a sut y teimlwch y byddai modd eu gwella, ymatebwch i’r ymgynghoriad hwn erbyn dydd Gwener 7 Tachwedd 2014: ymgynghoriad cyhoeddus ar y Bil Cynllunio (Cymru).

Rhagor o wybodaeth am y Bil Cynllunio (Cymru)

Mae’r rhan fwyaf o amser y Pwyllgor wedi’i roi i waith craffu ar y ddau fil a nodwyd uchod, ond mae’n briodol mewn peth gwaith ar ymchwiliadau hefyd, pan fydd amser yn caniatáu. Mae’r Pwyllgor yn cynnal nifer o ymchwiliadau byr a sesiynau untro. Sef:

  • Ymchwiliad byr i gynigion y Comisiwn Ewropeaidd ar gyfer ffermio organig.
  • Trafodaeth o amgylch y bwrdd am fater lles anifeiliaid;
  • Parhau â’i ymchwiliad i Dlodi Tanwydd ac Effeithlonrwydd Ynni; a
  • Cyflwyniad ar y gwersi y gall Cymru eu dysgu o Energiewende yr Almaen.

Mae’r ymchwiliad i ffermio organig yn edrych yn fanwl ar yr effeithiau posibl y gallai cynigion newydd gan y Comisiwn Ewropeaidd o ran cynnyrch organig eu cael ar Gymru.

Rhagor am yr ymchwiliad i gynhyrchu organig a labelu cynhyrchion organig

Bydd y sesiwn ar les anifeiliaid yn edrych ar faterion fel deddfwriaeth ar reoli cŵn, lladd anifeiliaid heb stynio; anifeiliaid mewn syrcas a rheoleiddio llochesi anifeiliaid.

Gan barhau â’r ymchwiliad y dechreuwyd arno yr haf diwethaf, bydd y Pwyllgor yn clywed gan gwmnïau ynni mewn cysylltiad â Thlodi Tanwydd ac Effeithlonrwydd Ynni.

Bydd y Pwyllgor hefyd yn cael cyflwyniad ar y gwersi posibl y gall Cymru eu dysgu o brofiad yr Almaen o ddatblygu ynni cymunedol.

Os hoffech archebu sedd i weld unrhyw gyfarfod Pwyllgor, cysylltwch â’r Tîm Archebu ar 0845 010 5500 / 01492 523 200 neu archebu@cymru.gov.uk. Gallwch hefyd weld y Pwyllgor drwy sianel ddarlledu’r Cynulliad, Senedd.tv.

Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am waith y Pwyllgor hwn, beth am ddilyn ei hynt ar ei ffrwd Twitter? Dilynwch @SeneddEnv i gael y wybodaeth ddiweddaraf.