Wythnos Cydraddoldeb ac Amrywiaeth – sicrhau bod Pobl Dduon a Lleiafrifoedd Ethnig yn cael eu cynrychioli yn ein gweithlu

Cyhoeddwyd 09/06/2015   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 09/06/2015

Fy enw i yw Selina Moyo. Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, rwyf wedi bod yn gweithio ar brosiect y Cynllun Gweithredu ynghylch Pobl Dduon a Lleiafrifoedd Ethnig i gynyddu nifer yr aelodau staff o gymunedau pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig y mae’r Cynulliad yn eu recriwtio, a sicrhau bod yr aelodau staff hyn yn cael eu cadw a’u bod yn cael cyfle i ddatblygu yn eu swyddi Un o’r heriau sydd gennym fel sefydliad yw sicrhau bod ein staff yn cynrychioli’r cymunedau a wasanaethir gennym fel y gallwn ddarparu gwasanaeth gwell i bawb. Drwy ein dadansoddiad blynyddol o gydraddoldeb, nodwyd bod angen gweithio i gynyddu nifer y bobl dduon a lleiafrifoedd ethnig sy’n gweithio yn y sefydliad. Er nad ydym wedi cyrraedd y nod yn gyfan gwbl hyd yma, rwy’n meddwl y gallwn ni ymfalchïo yn y ffaith ein bod wedi cymryd y cam cyntaf i sicrhau ein bod yn sefydliad sy’n cynrychioli’r holl bobl yr ydym yn eu gwasanaethu yng Nghymru. Beth rydym wedi ei wneud hyd yn hyn? Rydym wedi gwneud ein hunain yn fwy gweladwy i’r cymunedau a wasanaethir gennym. Rwyf wedi ymgysylltu â chymunedau pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig yng Nghaerdydd, gan sicrhau bod ganddynt ddealltwriaeth well o’n rôl fel Cynulliad ac, yn bwysicach, pwy ydym fel cyflogwr a’r cyfleoedd sydd gennym i’w cynnig.  Yn ystod y deuddeg mis diwethaf, rydym wedi cymryd rhan mewn ffeiriau swyddi a digwyddiadau eraill a gynhelir gan bartneriaid allanol, rhywbeth nad ydym wedi’i wneud o’r blaen. Rydym wedi gweithio gyda phartneriaid i wneud ein proses ymgeisio yn fwy hygyrch, drwy ddarparu hyfforddiant sylfaenol ar y broses o wneud cais yn ogystal â chymorth un-i-un i unigolion. Gwnaethom dreialu rhaglen ‘Hyfforddi’r Hyfforddwr’ ar gyfer sefydliadau partner er mwyn inni allu datblygu ‘llysgenhadon swyddi’ ar gyfer ein sefydliad. Rydym yn gobeithio y gall hyn barhau, fel bod mwy o bobl yn dod yn ymwybodol o sut i ddefnyddio’r broses ymgeisio sydd gennym. Rydym wedi sefydlu ffyrdd mwy amrywiol o hysbysebu ein swyddi ac rydym yn gweithio gyda phartneriaid sy’n darparu cyngor cyflogaeth arbenigol i sicrhau bod mwy o sefydliadau ac unigolion yn ymgysylltu â’r Cynulliad ac yn hysbysebu ein swyddi drwy ‘rwydweithiau cyfeillgar i bobl dduon a lleiafrifoedd ethnig’. Rwy’n aelod o nifer o bwyllgorau llywio sy’n gweithio ar rymuso pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig, er mwyn sicrhau bod gennym ddealltwriaeth well o faterion sy’n effeithio arnynt a sicrhau ein bod yn gallu cefnogi prosesau i gynnwys pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig. Rydym wedi gwrando ar ein partneriaid ac, o ganlyniad i’w cyfraniadau, rydym wedi egluro’r broses o lenwi’r ffurflen Monitro Cydraddoldeb drwy ddarparu taflen ffeithiau ar y ffurflen fonitro i bob ymgeisydd. Rydym yn sylweddoli bod helpu ein staff presennol i ddatblygu yn hanfodol mewn unrhyw ymdrechion i ddatblygu ein gweithlu o ran pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig. I’r perwyl hwn, rydym yn gweithio ar raglenni i sicrhau bod pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig yn cael eu cefnogi drwy eu datblygiad personol a’u bod yn gallu gwneud cynnydd yn y sefydliad, os ydynt yn dymuno. Er mwyn cefnogi cysylltiadau ymhlith ein staff, rydym wedi datblygu nifer o daflenni ffeithiau i’w defnyddio gan yr holl staff. Er enghraifft, mae ein Taflen ffeithiau ar amrywiaeth ddiwylliannol ar gael i’n holl staff, i’w defnyddio wrth gefnogi ymgysylltu mewnol ac allanol gyda grwpiau amrywiol ledled Cymru. Llynedd, cymerodd ein Rhwydwaith Staff i Bobl Dduon a Lleiafrifoedd Ethnig ran mewn digwyddiadau Mis Hanes Pobl Dduon a’r digwyddiad MELA ym mis Medi, er mwyn inni fod yn fwy amlwg yn y gymuned. Rydym yn gobeithio y gallwn barhau i sefydlu’r cysylltiadau allanol hyn, ac eleni byddwn unwaith eto yn cymryd rhan mewn digwyddiadau cymunedol i hyrwyddo ein gwaith hyd yn oed yn fwy. Beth sydd ar ôl i’w wneud? Mae angen inni gadarnhau ein perthynas â phartneriaid allanol fel y gallwn ddod yn gyflogwr o ddewis i fwy o bobl dduon a lleiafrifoedd ethnig. Rydym am weld pobl ifanc yn ymuno â ni drwy brofiad gwaith, fel eu bod yn deall yn well yr hyn sydd gennym i’w gynnig. Hefyd, rydym am weld mwy o ymgeiswyr o blith pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig, a byddwn yn parhau gyda’n hymdrechion o ran ymgysylltu. Rydym yn dal i fod yn awyddus i glywed gan y gwahanol gymunedau o bobl dduon a lleiafrifoedd ethnig nad ydym o bosibl wedi’u cyrraedd hyd yn hyn er mwyn gweithio gyda hwy i sicrhau bod ein proses ymgeisio yn hygyrch ac yn dryloyw. Os ydych am wybod mwy am ein prosiect, cysylltwch â selina.moyo@cynulliad.cymru. Selina and Abi at WMC for BHM2014