Mae Hydref yn fis Hanes Pobl Dduon

Cyhoeddwyd 06/10/2015   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 06/10/2015

bhm Dathlwyd Mis Hanes Pobl Dduon gyntaf yn y Deyrnas Unedig ym 1987, ac mae’n parhau i gael ei nodi’n flynyddol bob mis Hydref. Yn ystod y mis hwn bydd diwylliant, hanes a chyrhaeddiadau cymunedau pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig yn cael eu dathlu. Cynhelir digwyddiadau drwy gydol mis Hydref, yn genedlaethol, i gydnabod a dathlu cyrhaeddiadau pobl o gefndiroedd Du a Lleiafrifoedd Ethnig (BME) a’r cyfraniadau a wneir ganddynt i ddatblygiad y gymdeithas, technoleg, yr economi a chelf a diwylliant ym Mhrydain. I gael rhagor o fanylion am y digwyddiadau a gynhelir ledled Cymru, ewch i wefan Mis Hanes Pobl Dduon Cymru. I ddathlu Mis Hanes Pobl Dduon mae’r Rhwydwaith staff Pobl Dduon a Lleiafrifoedd Ethnig wedi trefnu amrywiaeth o weithgareddau a gaiff eu cynnal drwy gydol mis Hydref i godi ymwybyddiaeth ac i feithrin dealltwriaeth o hanes Pobl Dduon. Ym mis Hydref, bydd ein Rhwydwaith Staff Pobl Dduon a Lleiafrifoedd Ethnig yn hyrwyddo ‘ Arwyr BME’ , sef y bobl a fu’ n fodelau rôl ac yn ysbrydoliaeth iddynt. Cadwch lygad ar ein blog drwy gydol mis Hydref i ddarganfod mwy. Hefyd, bydd gennym stondin yn nigwyddiad arddangos Mis Hanes Pobl Dduon Cymru yng Nghanolfan Mileniwm Cymru ddydd Sadwrn 24 Hydref, sef un o uchafbwyntiau Mis Hanes Pobl Dduon. Dewch draw i’ r stondin; byddwn yn falch iawn o’ch gweld chi. Bydd y digwyddiad undydd am ddim hwn yn dathlu diwylliant gwasgariad Affricanaidd a’ i gyfraniadau i Gymru a thu hwnt gyda cherddoriaeth, canu, dawnsio, bwyd da a chwmni gwych. BHM1Os hoffech wybod mwy am ein rhwydwaith staff BME, cysylltwch â Raz Roap, Cadeirydd y rhwydwaith staff BME.