Diwrnod Mynediad i’r Anabl - Cynulliad Cenedlaethol Cymru, lleoliad hygyrch i ymwelwyr a staff

Cyhoeddwyd 16/03/2019   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/03/2019

View this post in English Awdur ein blog gwadd yw Catrin Greaves, ac mae Catrin newydd ddechrau gweithio gyda thîm y Gwasanaethau Ymwelwyr a Lleoliadau Seneddol. Mae hi’n trafod hynt a helynt bywyd gwaith i rywun sy’n byw gyda’r cyflwr niwrolegol dyspracsia, a sut brofiad yw gweithio yn y Cynulliad i rywun fel hi wrth i ni nodi Diwrnod Mynediad i’r Anabl ar 16 Mawrth.

Beth yw Dyspracsia?

Mae dyspracsia neu Anhwylder Cydlynu Datblygiadol yn gyflwr cyffredin sy’n para am oes ac sy’n effeithio ar sut mae’r ymennydd a’r corff yn cyfathrebu â’i gilydd. Nid oes unrhyw achos y gwyddys amdano i  ddyspracsia, er, fel yn fy achos i, gall fod yn gysylltiedig â chael eich geni’n gynamserol.  Gall rhywun sy’n byw gyda dyspracsia brofi amrywiaeth o symptomau, gan gynnwys anhawster gyda sgiliau echddygol, anhawster i ddeall a dilyn cyfarwyddiadau a chyfeiriadau, problemau cof tymor byr, anhawster wrth gynllunio a chydlynu gweithgareddau dyddiol, a materion synhwyraidd, lle gall person fod yn or-sensitif neu’n ansensitif i ysgogiad fel sain, cyffyrddiad, arogl neu dymheredd. Mae gan bobl â dyspracsia eu heriau unigryw eu hunain a dylid trin pawb fel unigolyn gyda’u hanghenion penodol eu hunain. Fel y bydda i’n hoffi dweud, os ydych wedi cwrdd â rhywun â dyspracsia, rydych wedi cwrdd ag un person yn unig â dyspracsia.
             ‘Hi yw un o’r bobl mwyaf clyfar rwy’n eu nabod, ond ni all ddefnyddio llungopïwr…’
Dywedwyd hyn amdanaf unwaith gan gyn reolwr! Mae’n amlygu’n berffaith nad yw dyspracsia yn effeithio ar ddeallusrwydd rhywun, ond gall effeithio ar lawer o dasgau bob dydd. I gael gwybod rhagor am ddyspracsia, ewch i wefan y Sefydliad Dyspracsia.

Beth yw bywyd gwaith i rywun sydd â’r cyflwr niwrolegol dyspracsia?

Gall dyspracsia achosi llawer o heriau yn y gweithle, a phosibilrwydd i ddigwyddiadau y byddaf fi’n eu galw yn ‘dyspracsidents’! Gall y digwyddiadau gynnwys: baglu; anghofio pethau; mynd ar goll dro ar ôl tro; teimlo panig pan fydd y ffôn yn canu, neu pan mae cydweithiwr yn ceisio siarad â chi a bydd cloch y Cyfarfod Llawn yn canu ar yr un pryd, ac ati. Mae rhai o’r pethau rwy’n ei chael yn anodd yn cynnwys:
  • Gorlwytho synhwyraidd, yn enwedig mewn perthynas â sŵn sy’n gwrthdaro.
  • Problemau cof tymor byr.
  • Anhawster dysgu dilyniannau newydd er mwyn cwblhau tasgau ymarferol.
  • Anawsterau o ran rheoli amser a chynllunio.
  • Anhawster gyda chyfarwyddiadau a rhifau (nid Mathemateg oedd fy hoff bwnc yn yr ysgol!).
Fodd bynnag, gyda pheth dealltwriaeth ac ychydig o addasiadau syml, rwy’n gweld fy nyspracsia fel ased. Mae pobl â dyspracsia yn tueddu i fedru dangos llawer o empathi, sy’n ddefnyddiol iawn i mi yn fy rôl o ymgysylltu ag ymwelwyr o amrywiaeth eang o gefndiroedd ac sydd â gofynion gwahanol. Gall staff sydd â gwahaniaethau niwrolegol amrywiol gyflwyno ffordd wahanol o feddwl i sefydliad, a dod â chyfres unigryw o sgiliau a chryfderau.

Fy Swyddogaeth - Gweithio yn y Cynulliad â dyspracsia

A minnau’n gweithio fel Cynorthwy-ydd Ymgysylltu ag Ymwelwyr, mae fy rôl yn amrywiol a diddorol. Rwy’n gweithio ar draws yr holl leoliadau ar ystâd y Cynulliad, gan gynnwys y Senedd ac adeilad hanesyddol y Pierhead. Rwy’n helpu’r cyhoedd i gael eu hysbrydoli gan waith y Cynulliad ac i ddysgu amdano. Mae hyn yn cynnwys amrywiaeth o bobl, gan gynnwys twristiaid a phobl leol, myfyrwyr a grwpiau teuluol. Rwy’n cynnal teithiau o amgylch yr adeilad, gan ymgysylltu ag ymwelwyr ar lawer o bynciau, gan gynnwys yr amgylchedd, diwylliant Cymru ac wrth gwrs, y gwaith gwleidyddol sy’n digwydd yn yr adeilad. Rwyf hefyd yn cyfrannu at redeg busnes y Cynulliad yn ddidrafferth, gan sicrhau bod y bobl iawn yn y lle iawn ar yr adeg iawn. Tydi hon ddim yn dasg hawdd bob amser i berson â dyspracsia! Oherwydd fy mod yn cynnal teithiau o amgylch yr adeilad, rwyf wedi perffeithio fy ngwybodaeth am ba mor hygyrch yw’r adeilad ar gyfer ymwelwyr, ac rwy’n falch o ddweud ein bod yn lleoliad hygyrch. Mae ein cyfleusterau’n cynnwys:
  • Rampiau a lifftiau.
  • Labelu sy’n gyfeillgar i awtistiaeth.
  • Systemau dolenni clyw.
  • Llogi cadeiriau olwyn.
  • Amrywiaeth o wahanol gyfleusterau toiled gan gynnwys toiledau niwtral o ran rhywedd, toiledau hygyrch, toiled â chymhorthion gan gynnwys cyfarpar codi ar gyfer oedolion, a thoiledau i bobl â phroblemau symudedd.
  • Mannau parcio i’r anabl.
  • Ystafell dawel ar gyfer gweddi, lleddfu straen, myfyrdod a lle tawel i ymwelwyr gofidus.
  • Tudalen benodol ar y we i ‘Ymwelwyr ag Awtistiaeth’.
Mae rhagor o wybodaeth am y gwelliannau sydd wedi’u cynnwys yn nyluniad ein hystâd, i sicrhau bod yr adeilad yn cyrraedd ei darged o fod yn esiampl o ran hygyrchedd yn y sector cyhoeddus, ar gael ar ein ‘gwefan ‘Mynediad’.

Lleoliad hygyrch i ymwelwyr a staff

Yn ogystal â chael amrywiaeth o gyfleusterau ar y safle sy’n sicrhau ein bod yn sefydliad hygyrch, mae’r Cynulliad hefyd yn hyrwyddo hygyrchedd i’w weithwyr. Gan fy mod i’n treulio mwy na deng awr ar hugain yn ein hadeiladau bob wythnos, rwy’n falch o ddweud bod y Cynulliad yn wir yn rhoi ystyriaeth i lesiant y bobl sy’n gweithio yma:
"Rwy’n credu ei bod yn bwysig bod y Cynulliad yn arwain y ffordd o ran hyrwyddo diwylliant sefydliadol cynhwysol, a’i fod yn gorff seneddol modern a hygyrch y gall pobl o ystod amrywiol o gefndiroedd ryngweithio yn hawdd ac yn ystyrlon ag ef. Mae’n ddyletswydd arnom ni yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru i arwain yn hyn o beth, i rannu ein profiadau, ac i sicrhau bod gwerthoedd cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn cael eu parchu a’u harfer gan bawb.” Elin Jones AC, Llywydd, Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Yn unol â’i werthoedd, mae gan y Cynulliad amrywiaeth o gyfleusterau sydd wedi’i gwneud yn haws i weithwyr fel fi, ac i sbectrwm eang o weithwyr sydd ag anghenion penodol i’w hystyried, gyflawni ein rôl. Gall yr anghenion hyn fod yn anableddau, yn ymrwymiadau teuluol neu yn rhwymedigaethau crefyddol. Yn benodol, rwy’n manteisio ar ein:
  • Hystafelloedd Tawel, y gellir eu defnyddio am sawl rheswm gwahanol, gan gynnwys gweddïo, myfyrio tawel, neu seibiant i bobl sy’n cael trafferth gyda gorlwytho synhwyraidd. Bydda i’n defnyddio’r stafell yn aml pan fydd fy ymennydd yn teimlo’n rhy llawn o wahanol olygfeydd a synau yn yr adeilad Cynulliad prysur hwn.
  • Rhwydwaith Anabledd i staff, sy’n helpu pobl i gysylltu â’i gilydd, i rannu eu heriau unigryw ac i hyrwyddo materion  sydd o ddiddordeb arbennig iddynt ar draws y sefydliad.
  • Rhwydwaith MINDFUL, sy’n hyrwyddo iechyd meddwl cadarnhaol. Mae hyn yn bwysig i mi oherwydd gall dyspracsia effeithio’n andwyol ar iechyd meddwl, gan fod pobl dyspracsig yn fwy tueddol o ddioddef pryder ac iselder.
Mae rhagor o wybodaeth am ein rhwydweithiau ar gael ar y wefan amrywiaeth. Addasiad rhesymol arall sy’n fy helpu i yw bod fy rheolwr cyfeillgar weithiau’n cynnig ysgogiadau ysgafn i wneud yn siŵr fy mod ar y trywydd iawn gyda fy ngwaith. Mae hyn yn ddefnyddiol iawn oherwydd gall fy symptomau dyspracsia amrywio, a byddaf yn cael diwrnodiau da a diwrnodiau dim cystal, pan fyddaf yn gallu teimlo mod i wedi fy llethu, neu fod gen i fwy o gymhelliant. Caniateir i mi hefyd weithio’n llai aml yn ein safle yn Nhŷ Hywel, lle mae swyddfeydd y gwleidyddion, oherwydd gall y fan hon fynd yn arbennig o brysur a swnllyd ar adegau. Mae fy nhîm wedi fy helpu i wneud yn fawr o’m cryfderau, ac mae eu hagwedd gadarnhaol wedi fy helpu i deimlo sicrwydd eu bod yn fy nghefnogi a fy mod yn aelod gwerthfawr o’r staff. Mae ymrwymiad Cynulliad Cenedlaethol Cymru i fod yn sefydliad cynhwysol, wedi sicrhau nifer o wobrau mawreddog iddo dros y blynyddoedd, o ran ei ymrwymiad i gynhwysiant ac amrywiaeth. Mae’r rhain yn cynnwys cael ei gydnabod fel:
  • Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd gan Adran Gwaith a Phensiynau’r DU
  • Deiliad Gwobr ‘Awtistiaeth Gyfeillgar’ Cymdeithas Genedlaethol Awtistiaeth.
  • Y cyflogwr gorau ar gyfer teuluoedd sy’n gweithio.
  • Hyrwyddwr Cyflogwr Oedran
  • Deiliad nod siarter ‘Mwy na Geiriau’ Action on Hearing Loss, a deiliad Gwobr Rhagoriaeth Gwasanaeth.
  • Cyflogwr sy’n cynnal ei Safon Aur Buddsoddwyr mewn Pobl, sef y dyfarniad rhyngwladol ar gyfer rhagoriaeth fyd-eang.
I gael rhagor o wybodaeth am weithio i Gynulliad Cenedlaethol Cymru, ewch i’n tudalennau Recriwtio. Mae rhagor o wybodaeth am ein hymrwymiad i Amrywiaeth a Chynhwysiant ar gael yn ein Strategaeth Amrywiaeth a Chynhwysiant 2016-21.