Diweddariad

Cyhoeddwyd 29/03/2010   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 29/03/2010

Yng nghyfarfod y Pwyllgor Deisebau ar 23 Mawrth, ystyriodd y Pwyllgor grynodeb o’ch ymatebion i gwestiynau a ofynnwyd ar y blog hwn. Yn ystod y cyfarfod, cytunodd y Pwyllgor i anfon crynodeb o’r ymatebion at y Prif Weinidog a’r Llywydd gan ofyn iddynt am eu barn ar eich sylwadau.  Yn ogystal, bydd y Pwyllgor yn cysylltu â Llywodraeth yr Alban a Gogledd Iwerddon i ganfod sut y maen nhw yn dathlu llwyddiant o fewn cyd-destun ehangach system anrhydeddau ar gyfer y Deyrnas Unedig. Bydd y Pwyllgor yn ystyried y ddeiseb hon ymhellach ar ôl iddo gael yr ymatebion i’r ceisiadau hyn. Byddwn yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd y ddeiseb ar y blog. Hoffai’r Pwyllgor ddiolch, unwaith yn   rhagor, i bawb a gyfrannodd at y blog.