Canserau gynaecolegol: A yw menywod yn cael eu cymryd o ddifrif?

Cyhoeddwyd 07/06/2023   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 12/07/2023   |   Amser darllen munudau

Yng Nghymru, mae oddeutu 1,200 o bobl yn cael diagnosis o ganser gynaecolegol bob blwyddyn.

Mae'r canserau hyn yn cynnwys canser ceg y groth, canser ofarïaidd, canser endometraidd (a elwir hefyd yn ganser y groth neu ganser yr wterws), canser y fwlfa, a chanser y fagina.

Yn anffodus, mae diffyg ymwybyddiaeth sylweddol o hyd ynghylch y mathau hyn o ganser.

Mae Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol y Senedd yn cynnal ymchwiliad parhaus i edrych yn fanwl ar brofiadau menywod â symptomau o ganser gynaecolegol.

Mae’r Pwyllgor yn canolbwyntio ar ddarganfod a yw unigolion â symptomau yn teimlo eu bod yn cael eu clywed yn ddigonol ac yn cael eu trin yn dda gan weithwyr gofal iechyd proffesiynol, yn ogystal ag asesu effeithiolrwydd gwasanaethau cefnogi ar ôl cael diagnosis.

Gan weithio gyda Gofal Canser Tenovus, gwahoddodd y Pwyllgor fenywod a oedd wedi cael canser gynaecolegol i ddweud am yr hyn a ddigwyddodd iddynt.

Rydym yn hynod ddiolchgar i bawb a gysylltodd â’r Pwyllgor, am eu gonestrwydd a'u dewrder.

 

'Hoffwn pe bawn i wedi gwthio rhagor'

Cafodd Claire ddiagnosis o Leiomyosarcoma y groth, sef canser prin a ffyrnig, ddwy flynedd bron ar ôl iddi nodi ei symptomau gyntaf gyda'i meddyg teulu. 

“Roeddwn i wedi bod yn mynd yn ôl ac ymlaen at fy meddyg teulu dros sawl mis. Fe wnes i barhau i fynd yn ôl ac ymlaen, a chefais ddiagnosis o syndrom coluddyn llidus (IBS) - a chefais feddyginiaeth ar ei gyfer. Roeddwn i'n gwybod nad IBS ydoedd oherwydd, i ddweud y gwir, nid oedd gennyf afreoleidd-dra yn y coluddyn yn benodol.”

“Es i Istanbul ar wyliau gyda ffrindiau, ac fe es i hammam, sef bath Twrcaidd ble rydych chi'n cael eich golchi a’ch tylino, a phan oeddwn i yno cefais y tylino, ac fe stopiodd y ddynes tylino yn sydyn a dweud, mewn Saesneg bratiog, "Lady, baby?" gan feddwl fy mod i’n feichiog. Felly, es i'n welw. Roeddwn yn gwybod nad oeddwn yn feichiog, ond daeth y cyfan yn amlwg iawn i mi bryd hynny fod y lwmp, mewn gwirionedd, yn ôl pob tebyg yn fy organau atgenhedlu. A dwi'n cofio siarad â fy ffrindiau ar y pryd, a dweud, “Wel wir, sut mae masseuse o Dwrci yn gallu dweud wrthyf beth sydd o'i le gyda mi yn well nag y gwnaeth fy meddyg teulu ers misoedd?”

Ers cymryd rhan yn yr ymchwiliad gyntaf, mae canser Claire bellach ar gam 4 ac wedi lledu i'w iau, ei hysgyfaint a'i hesgyrn.  Ar hyn o bryd mae hi'n aros i ddechrau cemotherapi.

Mae Claire yn dweud ei hanes er mwyn codi ymwybyddiaeth o Leiomyosarcoma y Groth:

“Mae Leiomyosarcoma y groth yn ganser prin a ffyrnig; oherwydd hyn mae'r diagnosis ar ei gyfer yn aml yn hwyr, ac mae hynny’n arwain at ganlyniadau dinistriol. Pe bai ymwybyddiaeth ohono, sylw arno ac ymchwil i’r canser hwn yn fwy amlwg, mae'n bosibl y gellid atal neu wella llawer o achosion. Mae gormod o gleifion yn cael gofal lliniarol yn fuan ar ôl cael diagnosis.”

 

'Mae yna symptomau'

Nid oedd Linda yn gwybod am ganser yr ofari nes iddi gael diagnosis.

“Gwelais y rhestr hon… ac roeddwn i, yn llythrennol, wedi ticio pob un o’r symptomau: y stumog yn chwyddedig, poen yn y stumog, yr angen i fynd i bi-pi yn amlach, blinder eithafol… Pe bawn i wedi gweld un o’r posteri hynny flwyddyn ynghynt, o leiaf byddwn wedi dweud wrth fy meddyg, 'Edrychwch, a oes posibilrwydd bod hwn arna’i? Rwy'n meddwl bod y canser ofarïaidd hwn arnaf.'

“Roeddwn i wedi clywed am ganser ceg y groth a’r holl ganserau amlwg, ac roeddwn i bob amser yn arfer mynd am y prawf ceg y groth yn rheolaidd.”

Cafodd ei symptomau eu camgymryd am IBS (syndrom coluddyn llidus) a heintiau'r llwybr wrinol, sy’n amlygu symptomau tebyg i ganser yr ofari. Yn anffodus, mae'r camddiagnosis hwn yn gyffredin ar gyfer menywod.

Mae Linda wedi bod yn rhydd o ganser ers 13 mlynedd. Roedd llawdriniaeth i dynnu dwy goden fawr, un yn 22cm, a'r llall yn 17cm, yn llwyddiannus. 

Nawr, mae hi'n dweud ei stori pryd bynnag y gall, er mwyn helpu menywod eraill:

“Maen nhw'n galw'r canser hwn “y lladdwr tawel”, oherwydd erbyn i fenywod gael diagnosis, mae'n aml yn rhy hwyr. Felly, ar unrhyw gyfle, bydda i'n codi ymwybyddiaeth o'r symptomau ... ac yn hyrwyddo’r neges nad oes angen i gynifer o fenywod farw o ganser yr ofari, oherwydd mae yna symptomau y gellir eu hadnabod.”

 

'Roedden nhw wedi gwneud i mi deimlo fel pe bawn i’n creu’r symptomau ac yn cwyno’n ddi-sail'

Cysylltodd Judith â'i meddyg teulu pan ddechreuodd waedu ar ôl y menopos.

Cafodd bresgripsiwn am therapi adfer hormonau (HRT), ond pan barhaodd y gwaedu roedd yn gwybod bod rhywbeth o'i le, gan fod ei mam hefyd wedi cael diagnosis o ganser yr ofari. Yn y pen draw, cafodd Judith ddiagnosis o ganser endometraidd a chafodd hysterectomi.

Fodd bynnag, ar ôl yr hysterectomi, profodd Judith boen ofnadwy a oedd yn dechrau yn ei stumog ac yn effeithio ar ei choes cynddrwg nes roedd hi’n methu â cherdded.

“Roeddwn i’n dweud a dweud, 'Rwy'n credu bod gen i ganser o hyd.'

Fodd bynnag, roedd ei meddygon yn teimlo nad oedd hyn yn wir, “Na, yn bendant ddim … fydden ni byth yn disgwyl gweld y byddai eich canser yn dychwelyd, a phe bai'n dychwelyd byddech chi'n hŷn a byddai'n effeithio arnoch chi mewn ffordd wahanol.”

Er gwaethaf cael ei chyfeirio at glinig poen, parhaodd Judith i gael poenau dirdynnol, ac ymhen amser cafodd ei hanfon i gael sgan ar ôl mynd i uned gofal brys ohewrydd y boen. Datgelodd y sgan fod y canser wedi dychwelyd ac nad oedd gwella iddo bellach.         

Mae Judith eisiau i'w hanes gael ei adrodd yn y gobaith y gall atal menywod eraill rhag cael yr un profiad ag a gafodd hi.

“Fe es i mewn i’r ysbyty hwnnw yn iach, ar wahân i’r canser yr oeddem yn mynd i gael gwared arno, a deuthum allan ac roeddwn wedi colli popeth.”

 

Beth sy'n digwydd nesaf?

Bydd y Pwyllgor yn parhau i glywed tystiolaeth lafar gan grwpiau a sefydliadau perthnasol drwy gydol tymor yr haf. Ym mis Medi, byddwn yn holi’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol am yr hyn yr ydym wedi’i glywed mewn tystiolaeth ysgrifenedig a thystiolaeth lafar, a thrwy ein gwaith ymgysylltu.

Bydd y Pwyllgor wedyn yn paratoi adroddiad, a fydd yn nodi ein canfyddiadau ac yn gwneud argymhellion i Lywodraeth Cymru ar gyfer meysydd i’w gwella.

Bydd ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad wedyn yn cael ei drafod yn siambr y Senedd.

 

Dilynwch yr ymchwiliad

Gallwch weld holl ddatblygiadau diweddaraf yr ymchwiliad hwn i ganserau gynaecolegol drwy:

 

Cymorth a chefnogaeth

Gofal Canser Tenovus: Os ydych chi'n poeni neu os oes gennych chi gwestiynau am ganser, neu os hoffech  gael mynediad at ein gwasanaethau, ffoniwch ein Llinell Gymorth am ddim ar 0808 808 1010.

Ymddiriedolaeth Canser Ceg y Groth Jo: Os oes gennych chi gwestiwn, eisiau gwybodaeth ddibynadwy neu efallai dim ond angen sgwrs a chlywed llais cyfeillgar, mae ein llinell gymorth am ddim ar gael i chi. Ffoniwch ni ar 0808 802 8000.

Target Ovarian Cancer: Pan fyddwch angen gwybodaeth, cymorth cyfeillgar neu rywun i siarad ag ef sy’n deall sut yr ydych chi’n teimlo – ffoniwch ein nyrsys arbenigol ar 020 7923 5475. Mae ein llinell gymorth ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener o 9 tan 5pm.

Cymorth Canser Macmillan: Os ydych chi neu rywun yr ydych yn gofalu amdano wedi cael diagnosis o ganser, rydym yma i helpu. Ffoniwch ni ar 0808 808 00 00, 8am i 8pm. Mae'n rhad ac am ddim i ffonio o linell dir a ffonau symudol yn y DU.