Pobl y Senedd

Heledd Fychan AS

Heledd Fychan AS

Aelod Rhanbarthol o’r Senedd

Plaid Cymru

Grŵp Plaid Cymru

Canol De Cymru

Fy Ngweithgareddau yn y Senedd

Yn is-bwynt (e) ym mhwynt 3, ar ôl 'ddigwyddiadau mawr', mewnosoder 'drwy hyrwyddo digwyddiadau sydd o fudd diwylliannol ac economaidd i Gymru'.

I'w drafod ar 17/05/2024

Ym mhwynt 3, dileu is-bwyntiau (b) ac (c).

I'w drafod ar 17/05/2024

Ychwanegu pwynt newydd ar ôl pwynt 2 ac ail-rifo yn unol â hynny: Yn nodi effaith cynnydd mewn costau ar fusnesau, yn ogystal â'r effaith y mae’r argyfwng costau byw wedi'i chael ar wari...

I'w drafod ar 17/05/2024

A wnaiff y Prif Weinidog ddarparu diweddariad am Gynllun Gweithredu Strategol y Llywodraeth ar gyfer Urddas Mislif?

Wedi'i gyflwyno ar 16/05/2024

Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi darpariaeth addysg blynyddoedd cynnar cyfrwng Cymraeg, gan gynnwys cylchoedd meithrin, yn sgil yr heriau y mae Mudiad Meithrin yn eu hwy...

Tabled on 15/05/2024

Yn ei datganiad llafar ar 14 Mai 2024, pa ddiwygiadau yr oedd yr Ysgrifennydd Cabinet yn cyfeirio atynt pan ddywedodd fod y Llywodraeth wedi cychwyn ar becyn sylweddol o ddiwygiadau i dra...

Wedi'i gyflwyno ar 14/05/2024

Rhagor o wybodaeth a digwyddiadau yn y calendr

Gwybodaeth fanwl: Heledd Fychan AS

Bywgraffiad

Prif ddiddordebau a chyflawniadau

Prif ddiddordebau Heledd yw diwylliant, hanes a threftadaeth; sicrhau gweithredu ar yr argyfwng hinsawdd a diddymu tlodi plant; a sicrhau bod gan bawb yr hawl i ddysgu a defnyddio’r Gymraeg.

Hanes personol

Magwyd Heledd yn Ynys Mon, lle mynychodd Ysgol Gynradd y Talwn ac Ysgol Uwchradd David Hughes. Astudiodd Hanes a Gwleidyddiaeth yng Ngholeg y Drindod yn Nulyn, gan ddod yn Swyddog Sabathol Addysg yn Undeb Myfyrwyr Coleg y Drindod ac yna yn Swyddog Sabathol Addysg Undeb Myfyrwyr Iwerddon. Mae ganddi radd meistr mewn Hanes Canol Oesoedd o Brifysgol Bangor. Mae Heledd yn byw ym Mhontypridd gyda ei gwr, a’u mab.

Cefndir proffesiynol

Cyn cael ei hethol, roedd Heledd wedi bod yn gweithio ers deuddeg mlynedd i Amgueddfa Cymru fel Pennaeth Polisi a Materion Cyhoeddus gan arwain ar lywodraethiant, strategaeth, cyfathrebu mewnol, cysylltiadau rhyngwladol a ymgysylltu gyda rhanddeiliaid. Bu yn aelod o Fwrdd y Museums Association gan gadeirio eu Pwyllgor Moeseg mewn Amgueddfeydd a’u Pwyllgor Cenhedloedd a’u cynrychioli fel siaradwraig wadd mewn nifer o gynhadleddau rhyngwladol. Cyn hynny, bu Heledd yn gweithio i grwp Plaid Cymru yn San Steffan.

Hanes gwleidyddol

Yn 2017, cafodd Heledd ei hethol i gynrychioli ward Tref Pontypridd ar Gyngor Rhondda Cynon Taf a hefyd Cyngor Tref Pontypridd. Ers cael ei hethol, mae wedi arwain a chefnogi nifer o ymgyrchoedd blaenllaw yn lleol gan gynnwys galw am Ymchwiliad Annibynnol i lifogydd dinistriol 2020, achub yr Uned Damweiniau ac Achosion Brys yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg ac yn erbyn newidiadau i ysgolion yn ardal Pontypridd.

Aelodaeth

Tymhorau yn y swydd

  1. 08/05/2021 -

Gweld y Gofrestr Fuddiannau Gyfredol

Aelodaeth o Grwpiau Trawsbleidiol

Etholiadau

Asedau'r Cyfryngau

Digwyddiadau calendr: Heledd Fychan AS