Pobl y Senedd

Buffy Williams AS

Buffy Williams AS

Aelod Etholaethol o'r Senedd

Llafur Cymru

Grŵp Llafur Cymru

Rhondda

Fy Ngweithgareddau yn y Senedd

Sut y bydd Llywodraeth Cymru yn mynd i'r afael ag anghydraddoldebau iechyd menywod?

Wedi'i gyflwyno ar 16/05/2024

A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi diweddariad ar gyllid ar gyfer y grŵp cyfleusterau chwaraeon cydweithredol?

Wedi'i gyflwyno ar 15/05/2024

Y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol | 13/05/2024

Y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol | 13/05/2024

Y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol | 13/05/2024

Y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol | 13/05/2024

Rhagor o wybodaeth a digwyddiadau yn y calendr

Gwybodaeth fanwl: Buffy Williams AS

Bywgraffiad

Prif ddiddordebau a chyflawniadau

Ei phrif ddiddordebau yw cymorth yn y gymuned a gwirfoddoli. Treuliodd Buffy 20 mlynedd yn y sector gwirfoddol ac mae’n teimlo’n angerddol dros gefnogi grwpiau a sefydliadau cymunedol. Mae Buffy hefyd yn ymwneud llawer â’r Rotari ac mae wedi mwynhau cefnogi nifer o ddigwyddiadau elusennol Rotari’r Rhondda. Yn 2020 dyfarnwyd Medal yr Ymerodraeth Brydeinig i Buffy am ei gwasanaethau i gymunedau’r Rhondda yn rhestr Anrhydeddau Pen-blwydd y Frenhines. Dyfarnwyd Gwobr Balchder Cymru iddi hefyd yn 2019 am ei gwaith gwirfoddol yng nghymunedau’r Rhondda.

Hanes personol

Mae Buffy yn byw yn y Rhondda gyda'i gŵr a'i phlant. Fe'i ganed yn Nhrewiliam yn y Rhondda ac mae bob amser wedi neilltuo'r rhan fwyaf o'i hamser hamdden i'r sector gwirfoddol.

Cefndir proffesiynol

Mae Buffy wedi gweithio ym myd addysg a'r trydydd sector. Yn fwyaf diweddar sefydlodd a chofrestrodd Buffy elusen yn y Rhondda i gefnogi trigolion lleol, gan sefydlu ystafell cymorth iechyd meddwl ac amrywiaeth o grwpiau cymorth.

Aelodaeth

Tymhorau yn y swydd

  1. 08/05/2021 -

Gweld y Gofrestr Fuddiannau Gyfredol

Aelodaeth o Grwpiau Trawsbleidiol

Etholiadau

Asedau'r Cyfryngau

Digwyddiadau calendr: Buffy Williams AS